Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. SiaredirIseldireg yng ngogledd y wlad,Ffrangeg yn y de, acAlmaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlurhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.
Rhoddir yr enw "Talwrn Ewrop" ar Wlad Belg am fod nifer o frwydrau pwysig yn hanes Ewrop wedi eu hymladd yno.[1]
Sefydlwyd yr ardaloedd ieithyddol (Iseldireg:taalgebieden,Ffrangeg:régions linguistiques) yn1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn1970. Ceir pedair o'r rhain:
ardal ieithyddol yr Iseldireg
ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
ardal ieithyddol Ffrangeg
ardal ieithyddol Almaeneg
Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:
y Gymuned Iseldireg ei hiaith (Vlaamse Gemeenschap)
y Gymuned Ffrangeg ei hiaith (Communauté Française)
y Gymuned Almaeneg ei hiaith (Deutschsprachige Gemeinschaft)