Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Gwireb (mathemateg)

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y defnydd o fewnmathemateg yw hon. Am ystyr llenyddol y gair, gwelergwireb.

Mewnmathemateg, maegwireb (weithiau: acsiom) yn ddatganiad a ystyrir yn gywir. Fe'i defnyddir fel man cychwyn ar gyfer rhesymu a dadleuon mathemategol pellach. Y gairGroeg ywaxíōma (ἀξίωμα) sef, 'yr hyn a ystyrir yn deilwng fel sy'n amlwg.'[1]

Mae gan y term wahaniaethau cynnil yn y diffiniad pan gaiff ei ddefnyddio yng nghyd-destun gwahanol feysydd astudio. Fel y'i diffinnir mewn athroniaeth glasurol, mae gwireb yn ddatganiad sy'n amlwg neu'n sefydledig, ei fod yn cael ei dderbyn heb ddadl ac yn ddi-gwestiwn. Fel y'i defnyddir mewnrhesymeg fodern, mae axiom yn syml yn fan cychwyn rhesymu pellach.[2]

O fewn mathemateg, defnyddir y term gwireb mewn dau ystyr: "gwirebau rhesymegol" a "gwirebau heb fod yn rhesymegol" (neu wireb 'anrhesymegol'). Mae gwirebau rhesymegol fel arfer yn ddatganiadau sy'n cael eu cymryd i fod yn wir o fewn y system o resymeg y maent yn ei ddiffinio (ee, bod (A aB) yn awgrymuA), a ddangosir yn aml fel symbolau, tra bod gwirebau heb fod yn rhesymegol (e.e.a +b =b +a) mewn gwirionedd yn honiad cadarn am elfennau o ddamcaniaeth fathemategol benodol (felrhifyddeg). Pan gaiff ei ddefnyddio yn yr ystyr olaf, gellir defnyddio "gwireb", "cynosod", a "rhagdybiaeth" i olygu fwy neu lai yr un peth. Yn gyffredinol, nid yw gwirebau heb fod yn rhesymegol yn hafal i'r 'gwir a dim ond y gwir', ond yn hytrach yn fynegiant rhesymegol ffurfiol a ddefnyddir mewn didyniad i adeiladu damcaniaeth fathemategol. Fel arfer ceir sawl ffordd o wirebu parth mathemategol penodol.

Felly, mae 'gwireb yn golygu dau beth, ond yr hyn sy'n gyffredin rhwng y ddau yw fod gwireb yn ddatganiad a ddefnyddir fel man cychwyn i ddatganiadau rhesymegol pellach. Testun llosg, sy'n perthyn i faes arall (athroniaeth mathemategol) yw gofyn a oes ystyr i'r honiad fod gwireb yn "wir".[3]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Cf. axiom, n., etymology.Oxford English Dictionary, accessed 2012-04-28.
  2. "A proposition (whether true or false)" axiom, n., definition 2.Oxford English Dictionary Online, accessed 2012-04-28.
  3. See for exampleMaddy, Penelope (Jun 1988). "Believing the Axioms, I". Journal of Symbolic Logic 53 (2): 481–511. doi:10.2307/2274520. https://archive.org/details/sim_journal-of-symbolic-logic_1988-06_53_2/page/481. for arealist view.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gwireb_(mathemateg)&oldid=10989110"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp