Gwilym Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1935 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | athro ![]() |
Adnabyddus am | ymgyrchydd iaith ![]() |
MaeGwilym Roberts yn athro a phleidiwr mawr dros yr iaith Gymraeg yngNghaerdydd a'r cyffiniau. Ganwyd ef ar12 Chwefror1935 yngNghaerdydd.
Ganed Gwilym ynLlanisien ond cafodd ei fagu ynRhiwbeina yng Nghaerdydd. Roedd ei dad oBenrhyndeudraeth ac yn gyfrifydd siartredig ac yn Ysgrifennydd yTown Planning and Housing Trust oedd yn rhoi benthyciadau ar log isel igymdeithasau tai yng Nghymru. Roedd ei fam oNantperis cyn symud iFargoed ac yna Caerdydd lle gweithiai fel ysgrifenyddes. Dywedodd na fyddai'n cael siarad Saesneg yn y cartref gan ei rieni.[1]
Mynychodd Gwilym Ysgol Gynradd Rhiwbeina ac Ysgol Ramadeg i Fechgyn Penarth. Gwnaeth Gwasanaeth Cenedlaethol am ddwy flynedd gan gael ei adnabod fel "Gunner Roberts"[1] ac oddi yno aeth yn fyfyriwr iGoleg y Drindod Caerfyrddin ac yna blwyddyn yn y gyfadran addysg ymMhrifysgol Aberystwyth.
Bu Gwilym Roberts yn athro Cymraeg am 31 mlynedd gan ddysgu ar draws Caerdydd yn Ysgol Gynradd Trelái, Ysgol Gynradd Tredelerch ("Rumney Primary School", Caerdydd) ac Ysgol Gynradd Springwood ynLlanedeyrn.
Bu'n athro Cymraeg yn Y Wladfa ymMhatagonia am dair mlynedd gan gychwyn yn 1991.[1]
Mae gyrfa a bywyd Gwilym Roberts wedi bod yn un o ddegawdau o waith ymarferol dros yr iaith a diwylliant Gymraeg ac, yn fwy penodol, dysgu Cymraeg fel ail iaith.
Bu'n un o sylfaenwyrMudiad Meithrin (a adnabuwyd fel Mudiad Ysgolion Meithrin wrth ei sefydlu) ac yn weithgar iawn gyda'r mudiad ers hynny gan ddod yn Gadeirydd Cenedlaethol y Mudiad rhwng 1981-1985. Cyn mynd ati i sefydlu'r corff genedlaethol newydd bu Gwilym yn weithgar yn y maes ers dros ddegawd. Mae bellach yn un o Lywyddion Anrhydeddus y Mudiad.
Wedi dychwelyd o'r brifysgol cododd Gwilym yr angen am gylch meithrin ynRhiwbeina mewn cyfarfod oUCAC ynTŷ'r Cymry. Roedd Gwilym wedi ei ysbrydoli gan gylch meithrin Gymraeg a gynhaliwyd festri Capel y Crwys ers Medi 1951 yn sgil agor ysgol gynradd Gymraeg yn Heol Ninian (safle dros-dro, fel mae'n digwydd iYsgol Gynradd Gymraeg Hamadryad) cyn i'r ysgol symud a dod yn ysgol gyflawn,Ysgol Bryntaf ynHighfields, Llandaf ym Medi 1952. Cafodd gefnogaeth ganGwyn M. Daniel, un o sylfaenwyr UCAC a gyriant mawr tu cefn i sefydlu'r ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd y cyfarfod i sefydlu cylch meithrin ar 21 Medi 1959 mewn adeilad a alwyd 'Y Tŷ Wendy' ar stâd Pentre'r Gerddi, Rhiwbeina sef, adeilad yr arferai'r AthroW.J. Gruffydd a'r DrIowerth Peate gynnalYsgol Sul yno yn yr 1920au. Cynhaliwyd y cylch yn y Neuadd Goffa yn Rhiwbeina cyn symud i festri Capel Bethel yn y maestref. Disgwylwyd dwsin o blant ar y bore cyntafond yn lle hynny daeth 21. Roedd y cylch o dan ofal Bethan Roberts a Sally Hughes. Bu Gwilym yn Ysgrifennydd ar y cylch am 31 mlynedd nes iddo adael i ddysgu yn y Wladfa yn 1991.[2]
Chwaraeodd Gwilym Roberts rhan holl bwysig wrth addasu a gweithredu dull dysgu dwysWlpan i'r Gymraeg. Ym 1972, yng Nghaerdydd, bu i Shoshana Eytan o Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol sôn am ei phrofiad hi ynglŷn â’r Ulpamin (lluosog 'ulpan')Hebraeg. Roedd Mrs Eytan wedi ennill cryn brofiad felmora (tiwtor) cyn iddi hi symud i’rDU. Felly, pan aethChris Rees a Gwilym Roberts i Lundain i ymweld â Mrs Eytan yn Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol, i ddysgu rhagor am ddulliau dysgu gellid eu trosglwyddo i'r cyd-destun Gymraeg. Fodd bynnag, y cyfan roedd hi’n ei dweud wrthyn nhw oedd y byddai'r tiwtoriaid yn defnyddio sialc a siarad fel arfer, ac roedd llawer iawn yn dibynnu ar frwdfrydedd a phersonoliaeth y tiwtoriaid. Ym 1973 y cychwynnodd y cyrsiau WLPAN ar gyfer y cyhoedd gyda Gwilym Roberts aChris Rees yn rhedeg y cwrs Wlpan cyntaf ynghen Ganolfan yr Urdd ar Heol Conwy,Pontcanna, Caerdydd sydd bellach wedi ei ddymchwel ac yn floc orhandai. Yn ôl erthygl ddwyieithog ar y pwnc ar wefanParallel Cymru mae'r ddau ohonyn nhw’n "gymeriadau eiconig o ran hybu’r Gymraeg, ac yn arloeswyr mewn dysgu’r iaith Gymraeg" a gelwyd Gwilym yn "the irrepressible Gwilym Roberts."[3]
Yn nodweddiadol, fel Cymro balch o Gaerdydd ac ymgyrchydd iaith, bu Gwilym yn weithgar iawn gyda'rDinesydd, papur bro Caerdydd aphapur bro gyntaf Cymru, gan fod yn Gadeirydd arni am gyfnod.[1]
Roedd Gwilym Roberts yn un o ddefnyddwyr a chefnogwyr mawrTŷ'r Cymry ar Ffordd Gordon yn yRhath yng Nghaerdydd. Bu'n fynychwr yno oddi ar iddo fod yn y 6ed dosbarth yn yr ysgol ramadeg gan gofio'r lle fel yr "unig le seciwlar yng Nghaerdydd ar gyfer y Cymry Cymraeg, ac roedd pobl ifanc yn dod o bob cwr o Gymru yno."[4]
Yn 2007 cyhoeddodd Gwilym lyfryn ar ei fagwraeth yng Nghaerdydd o'r enwAtgofion Plentyndod am Riwbeina. Cost y llyfr oedd £5 gyda'r elw yn mynd tuag atEisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008. Gyda gwerthiant y llyfryn, chodwyd dros £2,000 o elw i'r gronfa.[5]
Enwyd casét gan y grŵp pop o Gaerdydd,Edrych am Jiwlia o 1987 ynGwilym Roberts er parch iddo fel symbol o Gymreictod dinesig Caerdydd a'i frwdfrydedd dros yr iaith a'i diwylliant yn y brifddinas.