Gweriniaeth ar ynysIwerddon ywGweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg:Poblacht na hÉireann,Saesneg:Republic of Ireland; yn swyddogolÉire neuIreland).Dulyn ywprifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.
Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn "Uachtarán" neuArlywydd, ond y "Taoiseach" ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw "Gweriniaeth Iwerddon" i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire,Ireland) yw'r enw a ddefnyddir. Cyn cyhoeddi'r Weriniaeth yn gyfasoddiadol, galwyd y wladwriaeth ynGwladwriaeth Rydd Iwerddon.
Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf ywCarrauntoohil (Gwyddeleg:Corrán Tuathail), sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ceir nifer sylweddol oynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.
Yr afon fwyaf ar yr ynys ywAfon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydagaber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo iFôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinasLimerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint.
Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd "Gweriniaeth Iwerddon". Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg:Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydluGwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg:Irish Free State), roedd yr enw Saesneg,Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.
Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon. MaeCyfansoddiad Iwerddon mewn grym hyd heddiw. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire,Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.
Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw "Deddf Gweriniaeth Iwerddon" a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.
Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw "y Weriniaeth Wyddelig" (Saesneg:The Irish Republic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'nde juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac mae rhai carfanau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.
Defnyddir yr enw "Gweriniaeth Iwerddon" (Saesneg:The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio atÉire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.
Nodyn: * - Mae'r hen Swydd Ddulyn yn awr yn dair swydd newydd: (i) Contae Átha Cliath Theas /County of South Dublin; (ii) Contae Fine Gall /County of Fingal; (iii) Contae Dún Laoghaire–Ráth an Dúin /County of Dún Laoghaire-Rathdown.