Gwenafwy | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 g ![]() Rheged ![]() |
Bu farw | Unknown ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Blodeuodd | 6 g ![]() |
Dydd gŵyl | 1 Gorffennaf ![]() |
Tad | Coel Hen ![]() |
Santes o'r 6g oeddGwenafwy neuGwenabwy. Fe'i cysylltir agYnys Môn.[1]
Ychydig a wyddys am y santes hon. Roedd Gwenafwy yn un o ferched Caw neu Coel o Rheged, tad y seintiauGildas,Allgo (sefydlyddLlanallgo ym Môn) acEugrad (sefydlyddLlaneugrad ym Môn). Roedd ganddi ddwy chwaer, hwythau hefyd yn santesau o Ynys Môn, sefCywyllog aPeithien.[1] Rhoddwyd tir i'r teulu arYnys Môn ganMaelgwn Gwynedd ar ôl iddynt gorfod ffoi rhag y Pictiau ar yr amod y dylent canolbwyntio ar grefydd a pheidio datblygu gwladfa iddynt eu hunain.[2]
Ni ddylid ei chymysgu gyda: Gwen Teirbron, Gwen o Dalgarth Gwen o Gernyw a elwir weithiau Gwenap.[1]
Gwylmabsant: YSulgwyn neu1 Gorffennaf[3]
Yn y chwedl ganoloesolCulhwch ac Olwen, mae gan Gwenafwy fab o'r enw Gwydre mab Llwydew sy'n cael ei lofruddio gan ei ewythr Huail mab Caw. Dienyddwyd Huail am hynny (ceirMaen Huail ynRhuthun).[4]