Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Y Gwanwyn Arabaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oGwanwyn Arabaidd)
Y Gwanwyn Arabaidd
Enghraifft o:protest,gwrthryfel,rhyfel cartref,chwyldro Edit this on Wikidata
Daeth i benRhagfyr 2012 Edit this on Wikidata
Dyddiad17 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Daeth i benRhagfyr 2012 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganY Gaeaf Arabaidd, Second Arab Spring Edit this on Wikidata
LleoliadY Byd Arabaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSyrian revolution,Chwyldro'r Aifft,Chwyldro Libia,Chwyldro Iemen, ymgais ar coup d'état yn Libia 2013,Chwyldro Tiwnisia, protestiadau yn Algeria 2010–12, protestiadau yng Ngwlad Iorddonen 2011–12, Gdeim Izik protest camp, protestiadau yn Oman 2011 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0g9zr2q edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF59188 edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres o brotestiadau agwrthryfeloedd mewn llawer o wledyddy Byd Arabaidd a thu hwnt ywY Gwanwyn Arabaidd (neuProtestiadau'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, 2010–2011). Taniwyd y wreichionen gyntaf ynTiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninasSidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia. Dilynwyd hyn gan gyfres o brotestiadau gan y werin a alwyd ynChwyldro Jasmin neuIntifada Tiwnisia.

      Chwyldro      Rhyfel cartref      Newidiadau yn y llywodraeth a phrotestiadau eithafol am gyfnod hir      Peth newidiadau yn y llywodraeth a phrotestiadau      Protestiadau tanbaid      Protestiadau heddychlon
      Protestiadau tebyg y tu allan i'r gwledydd Arabaidd


Ymledodd y protestiadau hyn ar hyd a lled y gwledydd Arabaidd:yr Aifft,Algeria,Bahrein,Jibwti,Gorllewin Sahara,Gwlad Iorddonen,Iran,Coweit,Libia,Moroco,Tiwnisia aIemen gyda phrotestiadau llai ynIrac,Mawritania,Oman,Sawdi Arabia,Senegal,Somalia,Swdan aSyria. Mae'r protestiadau wedi cynnwys gorymdeithiau, ralïau a streiciau ac mae'r protestwyr wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol felFacebook aTwitter yn aml.

Y sefyllfa yn nechrau Chwefror 2011.     Addewid o newid llywodraeth     Chwyldro yn ei anterth     Protestiadau mawr     Protestiadau bach     Gwledydd eraill

Protestiadau cynnar

[golygu |golygu cod]

Dechreuoddprotestiadau yn Tiwnisia yn Rhagfyr 2010 yn arwain i ddymchweliad yr arlywyddZine el-Abidine Ben Ali ar 14 Ionawr 2011. YmddiswyddoddHosni Mubarak, arlywydd yr Aifft, ar 11 Chwefror 2011 ar ôl 18 dydd obrotestiadau yn y wlad honno.

Tua canol Chwefror cyhoeddoddBrenin Abdullah oWlad Iorddonen enw prif weinidog newydd a chyhoeddodd LlywyddIemen, Ali Abdullah Saleh, na fyddai'n dymuno tymor arall yn ei swydd yn 2013. Gwelwyd protestiadau drwyLibia lle galwyd am ymddiswyddiad y LlywyddMuammar al-Gaddafi. Cyhoeddodd LlywyddSwdan, Omar al-Bashir, na fyddai'n rhoi ei enw ymlaen yn yr etholiad nesaf yn 2015.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Y_Gwanwyn_Arabaidd&oldid=13442733"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp