Cyrhaeddodd y boblogaeth frodorol, sef yChamorros, yr ynys tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyrhaeddodd ymsefydlwyr Sbaenig, yn cynnwys y cenhadwr CatholigPadre San Vitores yn 1668. Bu'r ynys yn eiddoSbaen hyd 1898, pan gipiwyd hi gan yr Unol Daleithiau. Yn ystod yrAil Ryfel Byd, cipiwyd yr ynys gan luoedd arfogJapan yn Rhagfyr 1941, a'i hadfeddiannu gan yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 1944. Heddiw, ceir gwersylloedd milwrol yno, ac mae twristiaeth, o Japan yn bennaf, yn bwysig.