| Math | gwaith haearn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.036164°N 3.034703°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | DE189 |
Gwaith haearn ym mhentrefy Bers,Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ywgwaith haearn y Bers. Saif ar lanAfon Clywedog. Sefydlwyd y gwaith yng nghanol yr17g. Mae'r safle erbyn hyn yn ganolfan dreftadaeth o dan ofalaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mwyngloddiwydcarreg haearn o byllau ynPonciau,Rhosllanerchrugog, aLlwyn Einion, carreg galch o chwareli yny Mwynglawdd,siarcol o’r coedydd o gwmpasCoedpoeth a phwer yr afon. Erbyn y19g, defnyddiwydglo o’r ardal, a gwerthwyd potiau pibelli ac ati ynWrecsam aChaer.
Ym 1753, cymeroddIsaac Wilkinson yr awenau. Dyfeisydd o ogledd Lloegr oedd Wilkinson, ac roedd yn awyddus i gael hyd i ragor o haearn. Ehangodd y gwaith a gwnaeth botiau, pibelli, rholwyr, ac arfau, ond roedd o mewn trafferthion ariannol erbyn 1761. Roedd ei fab,John Wilkinson, yn fwy llwyddiannus.[1] Disodlodd ei dad, yn cydweithio efo’i frawdWilliam Wilkinson ym 1763. Adeiladwyd magnelau i’r fyddin a phystonau ar gyfer peiriannau stêmMatthew Boulton aJames Wattyn defnyddio modd newydd o’u gwneud, yn gwella safon y cynnyrch. Defnyddiwyd y magneli yn rhyfeloedd yn erbynNapoleon a hefyd ynRhyfel Annibyniaeth America. Estynnwyd y gwaith haearn, gyda melin duriad, melin rolio, ffwrneisi, ffowndri i greu magneli a bythynnod i’r gweithwyr. Anfonwyd ei nwyddau trwy borthladdGaer ac ar y camlesi oPreston Brook. Ym 1792, prynodd Wilkinson StadBrymbo i greu gwaith haearn newydd i ddisodli’r Bers.[2]