Mae gwain dynes oddeutu 10cm o hir, a 25mm mewn diamedr (er fod llawer o amrywiaeth o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na'rphidyn cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o hyblyg, sy'n galluogigenedigaeth achyfathrach rywiol. Mae'n cysylltu gyda'r fwlfa ar y tu allan, acheg y groth ar y tu fewn. Pan fo dynes yn sefyll mae'r fagina a'rgroth yn ffurfioongl o tua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'rclitoris ac agoriad yrwrethra. Tu allan i'r wain, mae'rgweflau(labia) a churn frasderog a elwir yngnwc Gwener. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg ibilenni mwcws mewnol eraill megis tu fewn y geg.
Mae'rchwarennau Bartholin a lleolir yn nau ben y wain yn gwlychu neu'n iro'r wain rhyw ychydig, ac mae rhywfaint o hylif yn croesi'r mur gweiniol yn ogystal (er nad oes chwarennau arno).
Mewn merched ifanc, mae'rhymen yn gorchuddio rhan o agoriad y wain, nes iddi gael ei rhwygo drwygyfathrach rywiol, ymarfer corff brwysg, neu rhyw weithgaredd arall megis marchogaeth. Dylid nodi nad yw cyfathrach rywiol yn rhwygo'r hymen o reidrwydd, felly mae'r cysylltiad traddodiadol rhwng yr hymen a gwyryfdod (e.e. yr hen enwCymraeg, pilen forwyn) yn ofergoel.
Fe all y crynhoad o derfyniadaunerfol o gwmpas agoriad y wain darparu ymdeimlad pleserus yn ystod gweithgareddau rhywiol. Gall gweithgaredd o'r fath fod yngyfathrach anghyfunrhyw, symyliad gyda'r dwylo neu gydaffugbidlen. Lleolir ardal a gelwir yman-G ar fur blaen y wain, oddeutu 5cm o'r agoriad; gall rhai merched brofi pleser angerddol wrth i'r man-G cael ei gosi. Honir fodorgasm man-G yn gallu arwain atalldafliad benywaidd.