Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Gwaed

Oddi ar Wicipedia
Gwaed
Enghraifft o:math o sylwedd biogenig, dosbarth o endidau anatomegol, sylwedd biogenig Edit this on Wikidata
Mathhylifau corfforol, cynnyrch anifeiliaid Edit this on Wikidata
Lliw/iaucoch, di-liw,gwyrdd Edit this on Wikidata
Rhan osystem gylchredol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysplasma gwaed,cell goch y gwaed,cell gwaed gwyn,platennau Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/019jw edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1248 edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Celloedd coch dynol.
Gwaed allan o wythïen dynol, wedi'i gasglu yn ystod yr ymarfer meddygol o roi gwaed, gan ddangos ei liw coch tywyll.

Hylif coch ywgwaed sy'n cael ei gylchredeg gan ygalon drwysystem gylchredol yfertebratau. Mae'n cynnwys yr hylifplasma a chelloedd sy'n llifo drwyddo:gwaetgelloedd coch (erythrosytau),platennau (thrombosytau) agwaetgelloedd gwyn (lewcosytau).

Dyma'r brif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparuocsigen i holl organau a chorffgelloedd. Swydd y gwaetgelloedd coch yw cludoocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Gwaetgelloedd coch yw'r unig gorffgelloedd sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y gwaetgelloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludocarbon deuocsid.

Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gydahemo- neuhemato- yn dod o'rHen Roeghaîma (αἷμα) ‘gwaed’.

Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan ygalon. Mae rhwng pedwar a hanner i bum litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.

Lliw

[golygu |golygu cod]

Mae lliw gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen sydd ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio'r atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn yrhydwelïau a'rcapilarïau (mân-wythiennau), mae lefelau'r ocsigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn ygwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.

Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch amgwaed
ynWiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod amanatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gwaed&oldid=13767395"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp