![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanasa ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.339°N 3.365°W ![]() |
Cod OS | SJ091833 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan yngnghymunedLlanasa,Sir y Fflint,Cymru, ywGronant[1][2] ( ynganiad ). Saif tua milltir o arfordirgogledd Cymru yng nghornel gogledd-orllewinol eithaf y sir, bron ar y ffin âSir Ddinbych. Mae'n gorwedd rhwngPrestatyn i'r gorllewin aGwesbyr aTalacre i'r dwyrain.
Tu ôl i'r pentref mae nant yn codi i'r Graig Fawr, y cyntaf oFryniau Clwyd. Mae lôn dan bont arReilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn arwain o'r pentref i'r traeth a'r tywynnau sy'n ymestyn o Brestatyn i'rParlwr Du.
Ar y traeth gerllaw Gronant, ceir yr unig fan lle mae'rFôr-wennol fechan yn nythu yng Nghymru. Mae'r nythod yn cael eu gwarchod gan wirfoddolwyr.
Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganHannah Blythyn (Llafur)[3] ac ynSenedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]
Trefi
Bagillt ·Bwcle ·Caerwys ·Cei Connah ·Y Fflint ·Queensferry ·Saltney ·Shotton ·Treffynnon ·Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu ·Afon-wen ·Babell ·Bretton ·Brychdyn ·Brynffordd ·Caergwrle ·Carmel ·Cefn-y-bedd ·Cilcain ·Coed-llai ·Coed-talon ·Cymau ·Chwitffordd ·Ewlo ·Ffrith ·Ffynnongroyw ·Gorsedd ·Gronant ·Gwaenysgor ·Gwernymynydd ·Gwernaffield ·Gwesbyr ·Helygain ·Higher Kinnerton ·Yr Hôb ·Licswm ·Llanasa ·Llaneurgain ·Llanfynydd ·Llannerch-y-môr ·Maes-glas ·Mancot ·Mostyn ·Mynydd Isa ·Mynydd-y-Fflint ·Nannerch ·Nercwys ·Neuadd Llaneurgain ·Oakenholt ·Pantasaph ·Pant-y-mwyn ·Penarlâg ·Pentre Helygain ·Pen-y-ffordd ·Pontblyddyn ·Pontybotgyn ·Rhes-y-cae ·Rhosesmor ·Rhyd Talog ·Rhyd-y-mwyn ·Sandycroft ·Sealand ·Sychdyn ·Talacre ·Trelawnyd ·Trelogan ·Treuddyn ·Ysgeifiog