Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Grombalia

Oddi ar Wicipedia
Grombalia
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCisterna di Latina Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirdelegation of Grombalia Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd65.15 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr48 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.61°N 10.5°E Edit this on Wikidata
Cod post8030 Edit this on Wikidata
Map

Tref yn ardalCap Bon, gogleddTiwnisia ywGrombalia. Mae'n gorwedd ar groesffordd bwysig tua hanner ffordd rhwngSoliman i'r gogledd a dinasNabeul i'r de.

Cysylltir Grombalia â'r brifddinas,Tiwnis, gan brif reilffordd y wlad ac mae rhwydwaith o fysus yn rhedeg oddi yno i sawl tref yn y Cap Bon a'r cyffiniau.

Mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r dref yn gymharol fodern, ond mae'n adnabyddus i ysgolheigion pensaernïaethAndalwsaidd Tiwnisia fel lleoliad El hammam el Kdim,baddondy cyhoeddus traddodiadol a adeiladwyd yn yr17g pan sefydlwyd Grombalia gan ffoaduriaid oAl Andalus ynIberia. Roedd yn rhan o'r palas a godwyd yn Grombalia gan Mustapha Cardanas.[1]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Abdelhakim Gafsi,Monuments Andalous de Tunisie (Tunis, 1993), tt. 42-43.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Grombalia&oldid=8494517"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp