Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Groeg yr Henfyd

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn sôn am y diwylliant. Am yr iaith, gwelerHen Roeg (iaith).
Mae'rParthenon, teml sydd wedi'i chysegru iAthena, wedi'i lleoli ar yrUchelgaer ynAthen, yn un o symbolau mwyaf cynrychioliadol diwylliant a soffistigedigrwydd y Groegiaid hynafol.

Cyfnod ohanes Groeg a barodd am tua mileniwm, hyd at ehangiadCristnogaeth, oeddGroeg yr Henfyd (hefydGroeg gynt,hen wlad Groeg). Fe'i hystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeiniGwareiddiad y Gorllewin. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yrYmerodraeth Rufeinig, a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan oEwrop. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megisiaith,gwleidyddiaeth,athroniaeth,addysg,gwyddoniaeth a'rcelfyddydau. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth yDadeni yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiadnewydd-glasurol yn yddeunawfed a'rbedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fideo byr o rai o ddyfeisiadau Groeg yr Henfyd

Defnyddir y termGroeg yr Henfyd hefyd i ddisgrifio parth hynafol yriaith Roeg. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr:Cyprus, ynysoedd ac arfordir dwyreiniol (a gelwir pryd hynny ynIonia) yMôr Aegeaidd,Sisili a deheubarth yrEidal (a gelwir pryd hynny ynMagna Graecia), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroeddColchis,Illyria,Thrace, yrAifft,Cyrenaica, deheubarthGâl, rhan ddwyreiniol gorynysIberia, Iberia'rCawcasws aTaurica.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod amWlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Groeg_yr_Henfyd&oldid=13702046"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp