Deunydd soled lle mae'ratomau a'rmoleciwlau wedi'u gosod mewn haenau trefnus i greu strwythur microsgopig ywgrisial neucrisial (enw gwrywaidd). Mae'r haenau hyn wedi'u cyplysu i ffurfio dellt sy'n ymestyn i bob cyfeiriad.[1][2] Gellir adnabod math unigol o risial yn aml oherwydd eisiâpgeometrig e.e.diamwnt,halen neubluen eira. Gelwir yr astudiaeth o grisialau, y mathau a'u ffurfiad, yngrisialeg.
Ceir amrywiaeth eang o grisialau, gan gynnwys y cewri uchod (diamwnt, halen), ond mae'r rhan fwyaf o grisialau anorganaidd yn glwstwr o grisialau (sef 'amlgrisial'), yn hytrach nag yn un grisial mawr e.e. llawer o greigiau, metalau a rhew. Ceir trydydd grŵp o solidau sef y rhai di-ffurf, amorffaidd, lle nad oes gan yratomau unrhyw ffurf bendant e.e.gwydr,cwyr a sawl math oblastig.
Ar wahân i'r bydgwyddonol, defnyddir grisialau mewn meddygaeth amgen a defodau crefyddol, e.e. therapi grisial, a gydagleiniau (sef crisialau i'w gwisgo ac i addurno), mewn swynion o fewn credoau felWica.