GoldenEye (1995) yw'r ail ffilm ar bymtheg yn y gyfresJames Bond a'r ffilm gyntaf i serennuPierce Brosnan fel yr asiant cuddMI6 ffuglennol, James Bond. Yn wahanol i ffilmiau Bond blaenorol, nid yw'r ffilm yn gysylltiedig â gweithiau'r nofelyddIan Fleming er fod yr enw "GoldenEye" yn dod o'i ystad ynJamaica. Dyfeisiwyd ac ysgrifennwyd y stori gan Michael France, gyda chyd-weithrediad wrth ysgrifenwyr eraill. Yn y ffilm, mae Bond yn ceisio atal criw arfog rhag defnyddio'r arf lloeren GoldenEye yn erbynLlundain er mwyn atal trychineb ariannol byd-eang.
Y prif actorion yn y ffilm hon yw Judi Dench, Desmond Llewelyn, Gottfried John, Pierce Brosnan, Famke Janssen, Sean Bean, Minnie Driver, Izabella Scorupco, Samantha Bond, Martin Campbell, Robbie Coltrane, Alan Cumming, Tchéky Karyo, Michael G. Wilson, Michael Kitchen, Joe Don Baker, Simon Crane, Serena Gordon a Ravil Isyanov. Mae'n 130 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw.[1]
Fel y nodwyd, cyhoeddwyd y ffilm yn 1995. Ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn honno oeddBraveheart sef ffilm ganMel Gibson amyr Alban a rhyfel annibyniaeth y genedl, dan arweiniadWilliam Wallace, yn erbyn y goresgynwyr Seisnig o Loegr. Hyd at 2022 roedd o leiaf 66,300 o ffilmiau Saesneg wedi gweld golau dydd.Phil Méheux oeddsinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm hon a chafodd ei golygu gan Terry Rawlings sydd ymhlith y golygyddion mwyaf toreithiog.