Mewnieithyddiaeth,gogwyddiad yw'r ffurfdroadau sy'n digwydd yn enwau, rhagenwau ac ansoddeiriau sy'n dynodi nodweddion felrhif (yn aml, unigol yn erbyn lluosog),cyflwr (er enghraifft gwrthrych a goddrych), achenedl. Mae gogwyddiad yn digwydd yn nifer o ieithoedd y byd ac yn amlwg iawn yn nifer o'rieithoedd Ewropeaidd.
Mae gogwyddiad llawer yn llai amlwg yn nifer o'r ieithoeddIndo-Ewropeaidd modern sydd wedi dod yn fwyanalytig na'u ffurfiau hŷn.
Nid yw gogwyddiad yn amlwg iawn ynGymraeg fodern gan ei bod wedi colli'rffurfdroadaucyflwr a oedd yn bresennol ynFrythoneg. Serch hynny mae enwau Cymraeg o hyd yn gogwyddo yn ôl yrhifau unigol a lluosog. Oherwydd naturymasiadol y ffurfdroadau yn Gymraeg, mae'r gogwyddiadau yn afreolaidd iawn, er enghraifft,ffordd affyrdd,bachgen abechgyn,merch amerched,tŷ atai,ci acŵn,cyfrifiadur acyfrifiaduron,mab ameibion,car aceir, ayyb.
MaeLladin yn dangos y saith cyflwrenwol,gwrthrychol,derbynniol,genidol,abladol,cyfryngol achyfarchol drwy batrymau gogwyddiad cymhleth. Mae yna hefyd ffurfiau lleol o enwau rhai llefydd ynRhufain hynafol.
Rhoddir enghraifft o ogwyddiadau Lladin gyda ffurfiau unigol y gairhomo (dyn), sydd yn perthyn i drydydd gogwyddiad yriaith Ladin.
- homo (enwol) "[y] dyn" [fel goddrych] (e.ehomo ibi stat saif y dyn yno)
- hominis (genidol) "eiddo['r] dyn" (e.enomen hominis est Claudius enw'r dyn yw Claudius)
- homini (derbyniol) "i/am [y] dyn" [fel gwrthrych anuniongyrchol] (e.ehomini donum dedi rhoddais anrheg i'r dyn;homo homini lupus dynoliaeth yw blaidd i ddynoliaeth.)
- hominem (gwrthrychol) "[y] dyn" [fel gwrthrych uniongyrchol] (e.ehominem vidi gwelais y dyn)
- homine (abladol) "o/gyda/yn/gan/wrth [y] dyn" [gyda gwahanol defnyddiau] (e.esum altior homine rwyf yn fwy na'r dyn).
Fel unrhyw iaith gyda gymaint o ogwyddiadau â Lladin gellir trefnubrawddeg mewn unrhyw ffordd ar gyfer effaith neu bwyslais:
- Hominem vidi acVidi hominem - Gwelais y dyn.
Mae gan Ladin nifer o ddosbarthiadau patrymau gogwyddiad, hynny yw, grwpiau o enwau sydd yn rhannu patrymau gogwyddo tebyg. Fe ystyrir Lladin i fod â phum dosbarth gogwyddo.
MaeAlmaeneg, fel pobiaith Orllewin Indo-Ewropeaidd wedi dod yn fwyanalytig, ond mae hi o hyd yn gogwyddo enwau a'u geirynnau perthynol yn ôlcyflwr yn ogystal âchenedl arhif. Mae ansoddeiriau yn gogwyddo i mewn i 3 grŵp gogwyddo; cryf, gwan, a chymysg. Isod gweler gogwyddiad ybanodau penodol[1]:
- Cyflwr enwol:der (gwrywaidd)die (benywaidd)das (diryw)die (lluosog)
- Cyflwr gwrthrychol:den (gwrywaidd)die (benywaidd)das (diryw)die (lluosog)
- Cyflwr genidol:des (gwrywaidd)der (benywaidd)des (diryw)der (lluosog)
- Cyflwr derbynniol:dem (gwrywaidd)der (benywaidd)dem (diryw)den (lluosog)
Mae terfyniadau cyflwr yn tarddu o arddodiaid sydd dros amser yn cael eu "llyncu" i mewn i'r enw. Mae'r un broses o "lyncu" diwedd geiriau yn gyfrifol am yr "erydiad" sy'n digwydd pan gollir y terfyniadau cyflwr[2].