Map o'r byd yn dangos Gogledd America Delwedd cyfansawdd lloeren o Ogledd America MaeGogledd America yngyfandir ynhemisffer gogleddol ahemisffer gorllewinol yDdaear , wedi'i ffinio i'r gogledd gan yCefnfor Arctig , ar y dwyrain gan gogledd yCefnfor Iwerydd , ar y dde-dwyrain ganMôr y Caribi , ac ar y dde a'r gorllewin gan gogledd yCefnfor Tawel . Mae gan Ogledd Americaarwynebedd o 24,480,000 km² (9,450,000 mi sg), neu tua 4.8% o arwynebedd yDdaear . Yn2002 , credir bod yboblogaeth yn fwy na 514,600,000. Dyma'r trydydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôlAsia acAffrica ) a'r pedwerydd o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica acEwrop ).
Prif erthygl:Hanes Gogledd America YrEwropeaid cyntaf i gyrraedd Gogledd America yn sicr (Newfoundland ) oedd yLlychlynwyr , wnaeth galw'r ardal ynVinland . Cyrrhaeddon nhw yna tua1000 . Er iddyn nhw sefydlu gwladfeydd yno, ni adawon nhw ryw lawer o farc ar y cyfandir.
Ar ôl mordaithChristopher Columbus yn1492 , ySbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ac aros. Enillon nhw reolaeth dros ran fwyaf oynysoedd mwyaf yCaribi a gorchfygon nhw'rAsteciaid , ac felly cymryd drosMecsico aChanolbarth America .
Y gwladfeyddSeisnig cyntaf oeddJamestown aPlymouth Rock , yn nhaleithiauVirginia aMassachusetts heddiw. Y gwladfeydd llwyddiannusFfrengig cyntaf oeddPort Royal (1604 ) a dinasQuébec (1608 ), yn nhaleithiauNova Scotia aQuébec heddiw.
Economi Gogledd America Poblogaeth :495.4 miliwn CMC (PPP ):US$ 12.409 triliwnCMC (Pres ):$11.865 triliwn CMC/pen (PPP ): $25,263 CMC/pen (Pres ): $24,155 Cynnydd blynyddol yn CMC y pen: 1.84% (1990-2002) Incwm y 10% top: 32.9% Miliwnyddion :2.7 miliwn (0.5%) Amcangyfrifincwm benywaidd 55.7% o'r incwm gwrywaidd
Rhannwyd economi Gogledd America rhwngCanada acUnol Daleithiau America , dwy o wledydd mwyaf cyfoethog y byd, a chenhedloeddCanolbarth America a'rCaribi , sydd, er nad yn dioddef o economïau gwael, yn wledydd llai economaidd ddatblygol.
MaeCytundeb Masnach Rydd Canolbarth America (CAFTA) yn gytundeb rhwng yrUnol Daleithiau a gwledyddCanolbarth America :Costa Rica ,Gwatemala ,El Salfador ,Hondwras aNicaragwa . Amcan y gytundeb yw i hybumasnach rydd rhwng yr aelodau. MaeCanada aMecsico yn trafod aelodaeth. MaeCytundeb Masnach Rydd Gogledd America (NAFTA) yn gytundeb rhwngCanada ,Mecsico a'rUnol Daleithiau i ddileu tollau ar nwyddau a fasnachir rhynddynt.
Gwledydd o Ogledd America Wiciadur