MaeGoa yn dalaith arfordirol yng ngorllewinIndia. Fe'i lleolir yn yr ardal o'r enw Konkan. Mae hi'n ffinio âMaharashtra yn y gogledd aKarnataka yn y de a'r dwyrain. Goa yw'r dalaith leiaf o ran arwynebedd a'r bedwaredd leiaf o ran poblogaeth. Nid yw'n dalaith fawr, gydag arwynebedd tir o ddim ond 3659 km². Mae ganddi boblogaeth o tua 1.4 miliwn (1999).
Ei phrifddinas ywPanaji er maiVasco de Gama yw'r ddinas fwyaf. Gwelir dylanwad diwylliantPortiwgeaidd ar ddinas hanesyddolMargao wedi i'r Portiwgeaid lanio yno yn yr16g, gan goncro'r ardal yn fuan ar ôl hynny. Parhaodd Goa o dan reolaeth Portiwgal am tua 450 o flynyddoedd, tan iddi gael ei goresgynnwyd gan India ym 1961.
Mae Goa yn ganolfan boblogaidd gan dwristiaid o'r Gorllewin ac mae'r GNP yn uchel yn nhermau India. Mae'r dalaith yn enwog am ei thraethau, mannau addoli a phensaernïaeth treftadaeth y byd.