Mudiadcrefyddol yn seiliedig arathroniaethgyfrinol a flodeai yng nghanrifoedd cyntafCristnogaeth oeddGnostigiaeth. Gelwir ei phleidwyr yn Nostigiaid.
Nodwedd amlycaf y Gnostigiaid oedd eu cred yn ygnosis (gairGroeg sy'n golygu 'gwybodaeth'). Roedd y gnosis yn ddatguddiad cyfrinol o'r realiti dwyfol a roddwyd i ddisgyblion Gnostig ganDduw. Roedd y gnosis yn sicrhauIachawdwriaeth i'r credadun hefyd.
Amlygai Gnostigiaeth ei hun mewn sawl ffordd ac roedd yn cynnwys elfennau a fenthyciwyd o arferion a defodauhudpaganiaid yr Henfyd ac yn arbennig felly crefyddMesopotamia,Persia a'rHen Aifft. Gellid ei hystyried ar un ystyr yn barhâd Cristnogol, neu led-Gristnogol, ogyfrin-grefyddau (e.e.Mithräeth acIsis) yn ystod y blynyddoedd olaf o'rYmerodraeth Rufeinig. Nid un mudiad â chorff canolog yn ei reoli oedd Gnostigaieth ond yn hytrach gasgliad o grwpiau llai. Roedd Cristnogion uniongred aThadau'r Eglwys felTertullian yn eu hystyried ynhereticiaid ac yn eu collfarnu'n hallt.
Roedd ganddynt fyd-olwgdeuoliaethol: Duw oeddDaioni a'r byd materol ynDdrygioni. Roeddynt yn gwrthod dynoldebCrist ac yn credu yn ei ddwyfoldeb yn unig. Credant fod Crist fel ymgnawdoliad o Dduw wedi'i anfon i'r byd er mwyn achub 'gronynnau' o ysbryd (yrenaid, fwy neu lai) oedd wedi'u dal yn y cnawd a'u dallu ganddo. Credent arddiwedd y byd y bydd Duw yn anfonGwaredwr a fydd yn dryllio teyrnas Drygioni am byth.
Cafodd Gnostigiaeth ddylanwad mawr ar enwad yManicheiaid a gwelir ei hôl ar rai oheresïau mawr yrOesoedd Canol yn ogystal.