Mae sawl diffiniad posib o lobaleiddio. Yn ôlEncyclopedia Britannica, "proses lle mae'r profiad o fywyd pob dydd ... yn dod yn fwyfwy unfath ar draws y byd" ydyw. Mewneconomeg, gellid diffinio Globaleiddio yn gydgyfeiriad prisiau, cynnyrch,cyflogau,cyfraddau buddiant acelw tuag at yr hyn sy'n arferol mewn gwledydd "datblygedig". Dibynna globaleiddio economaidd ar rôlmudo dynol,masnach ryngwladol, symudiad cyfalaf, a chyfuniad marchnadoedd ariannol. Mae'rIMF yn nodi fod gwledydd ledled y byd yn dibynnu fwyfwy ar ei gilydd yn economegol, a hynny trwy gynnydd mewn maint ac amrywiant cyfathrach ariannol rhyngwladol ac yn y blaen. Dywedir maiTheodore Levitt oedd y cyntaf i ddefnyddio'r term mewn cyd-destyneconomaidd.
Mae llawer o bobl yn dadlau yn erbyn y don presennol o lobaleiddio economaidd, yntau oherwydd niwed amgylcheddol i'r blaned, neu oherwydd niwed i bobl, megis tloti cynyddol, anhafaledd, anghyfiawnder, ac erydiad diwylliant draddodiadol. Maent yn herio'r dulliau, megis GDP, a ddefnyddir i fesur cynnydd ganBanc y Byd ac eraill; gan ddefnyddio dulliau fel yMynegai Planed Hapus,[1] a grëwyd gan yrNEF[2].