Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Glesyn y sialc

Oddi ar Wicipedia
Polyommatus coridon
neuLysandra coridon
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Arthropoda
Dosbarth:Insecta
Urdd:Lepidoptera
Teulu:Lycaenidae
Llwyth:Polyommatini
Genws:Polyommatus
Rhywogaeth:P. coridon
Enw deuenwol
Polyommatus coridon
(Poda, 1761)
Cyfystyron

Lysandra coridon

Glöyn byw sy'n perthyn iurdd yLepidoptera ywglesyn y sialc, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydygleision y sialc; yr enw Saesneg ywChalkhill Blue, a'r enw gwyddonol ywPolyommatus coridon neuLysandra coridon.[1][2]

Ŵy

Lliw

[golygu |golygu cod]

Mae gan yr oedolyn gwryw adenydd arianlas gydag ymylon du a gwyn. Mae'r fenyw yn dywyllach, ond mae ganddynt hwythau hefyd ymylon tebyg. Gellir dweud y gwahaniaeth rhyngddynt drwy edrych o dan eu hadenydd.

Cynefin

[golygu |golygu cod]

Yng ngwledydd Prydain, fe'i welir mewn iseldiroeddcalchog sydd heb wrtaith arno. Mae'r oedolyn i'w weld rhwng Gorffennaf a Medi am gyfnod o rhwng 6-8 wythnos.

Bwyd

[golygu |golygu cod]

Mae'r siani flewog yn hoff iawn oHippocrepis comosa (ffacbysen bedol).

Cyffredinol

[golygu |golygu cod]

Gellir dosbarthu'rpryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'rUrdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: ygloynnod byw a'rgwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 orywogaethau mewn tua 128 odeuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae glesyn y sialc ynlindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod ynchwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yngnghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod:ŵy,lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  • Butterfly Conservation (undated) Butterfly species data: Chalkhill Blue.[1]Archifwyd 2006-10-12 yn yPeiriant Wayback (Accessed 2 Nov 2006)
  • Emmet, A.M. (1990) Lysandra coridon (Poda). Pages 160-162 inThe Moths and Butterflies of Great Britain and Ireland Vol. 7 Part 1 (ed. A.M. Emmet and J. Heath). Harley Books, Colchester, UK.
  • Tomlinson, D. and R. Still (2002)Britain's Butterflies. WildGuides, Old Basing, UK.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Glesyn_y_sialc&oldid=10876158"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp