Geronimo |
---|
 |
Ganwyd | 16 Mehefin 1829  Afon Gila  |
---|
Bu farw | 17 Chwefror 1909  Fort Sill  |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America,Mecsico  |
---|
Galwedigaeth | arweinydd milwrol  |
---|
Swydd | cadfridog rhyfel  |
---|
Priod | Alope, Ta-ayz-slath, Chee-hash-kish, Nana-tha-thtith, Zi-yeh, She-gha, Shtsha-she, Ih-tedda, Azul  |
---|
llofnod |
---|
 |
Arweinydd milwrol yrApacheChiricahua oeddGeronimo (Chiricahua:Goyaałé, sillefir weithiau felGoyathlay neuGoyahkla) (16 Mehefin1829 –17 Chwefror1909).
Ganed ef yn aelod o gangen Bedonkohe o'r Apache, ger Turkey Creek, afon sy’n llifo iAfon Gila yn yr hyn sy’n awr yn dalaithNew Mexico o’rUnol Daleithiau, ond a oedd bryd hynny yn swyddogol yn rhan oFecsico. Priododd ferch o’r Chiricauhua, a chawsant dri o blant. Ar5 Mawrth1851, ymosododd 400 o filwyr o Sonora dan y Cyrnol Jose Maria Carrasco ar wersyll Geronimo gerllaw Janos pan oedd y dynion i ffwrdd yn masnachu. Lladdwyd ei wraig, Alope, ei blant a’i fam. Gyrroedd ei bennaeth,Mangas Coloradas, ef i ymuno â rhyfelwyrCochise i geisio dial. Cafodd yr enw “Geronimo”, pan ymosododd ar filwyr Mecsico nes iddynt alw arSant Sierom am gymorth.
Nid oedd Geronimo yn bennaeth, ond daeth yn arweinydd milwrol pwysig iawn. Priododd eto nifer o weithiau, gan gael o leiaf dri plentyn. Ymladdodd yn erbyn México a’r Unol Daleithiau gyda chryn lwyddiant o 1858 hyd 1886, er bod eu milwyr yn llawer mwy niferus na’i ryfelwyr ef. Tua diwedd ei yrfa fel arweinydd, nid oedd ganddo ond 38 o wyr, gwragedd a phant, ond llwyddasant i osgoi cael eu dal gan 5,000 o filwyr yr Unol Daleithiau (chwarter y fyddin ar y pryd) ac unedau o fyddin México am flwyddyn. Ar4 Medi1886, ildiodd i’r cadfridogNelson A. Miles ynSkeleton Canyon,Arizona.
Gyrrwyd Geronimo a’r rhyfelwyr eraill i Fort Pickens,Florida, a’i deulu i Fort Marion. Ail-unwyd hwy ym mis Mai 1887, pan drosglwyddwyd hwy i Mount Vernon,Alabama. Ym 1894, symudwyd hwy i Fort Sill,Oklahoma. Daeth Geronimo yn enwog, gan ymddangos ynFfair y Byd 1904 ynSt. Louis, a gwerthu lluniau ohono ei hun. Bu farw yn Fort Sill yn 1909 a claddwyd ef yno.
Yn 1905, cytunodd Geronimo i adrodd ei hanes i S. M. Barrett, a’i cyhoeddodd fel llyfr. Cyhoeddwyd ail-argraffiad gan Frederick Turner yn 1970.
- Geronimo: His Own Story: The Autobiography of a Great Patriot Warrior, gol. Frederick W. Turner (Efrog Newydd: Dutton, 1970)ISBN 0-525-11308-8
- David Roberts,Once they moved like the wind[:] Cochise, Geronimo and the Apache Wars (Simon & Schuster, 1994; argraffiad newydd, Pimlico, 1998)ISBN 0-7126-6628-1