Gwobr Lenyddol Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Modrwy Anrhydedd y Ddinas, Urdd yr Eryr Coch 4ydd radd, Gwobr Goethe, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, honorary doctor of the Leipzig University, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Columbia, doethur honouris causa o Brifysgol Carolina de Praga, Gwobr Franz-Grillparzer, Gwobr Franz-Grillparzer, Gwobr Franz-Grillparzer, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Adlerschild des Deutschen Reiches, Pour le Mérite
Dramodydd anofelydd o'rAlmaen oeddGerhart Johann Robert Hauptmann[1] (15 Tachwedd 1862 - 6 Mehefin 1946). Fe'i cyfrifir ymhlith hyrwyddwyr pwysicaf naturiaeth lenyddol, er iddo integreiddio arddulliau eraill yn ei waith hefyd. Derbyniodd yWobr Nobel mewn Llenyddiaeth ym 1912.
Ganwyd Gerhart Hauptmann ym 1862 yn Obersalzbrunn, a elwir bellach yn Szczawno-Zdrój, yn Silesia Isaf (a oedd ar y pryd yn rhan o Deyrnas Prwsia, sydd bellach yn rhan o Wlad Pwyl). Ei rieni oedd Robert a Marie Hauptmann, a oedd yn rhedeg gwesty yn yr ardal. Pan yn ifanc, roedd gan Hauptmann enw am beidio dweud yr holl wir.
Gan ddechrau ym 1868, mynychodd ysgol y pentref ac yna, ym 1874, y Realschule ynBreslau a phrin y llwyddodd yn yr arholiad cymhwysol ar ei gyfer. Cafodd Hauptmann drafferthion o ran addasu ei hun i'w amgylchoedd newydd yn y ddinas. Roedd yn byw, ynghyd â’i frawd Carl, mewn tŷ preswyl myfyrwyr oedd wedi dirywio braidd cyn dod o hyd i lety gyda gweinidog.
Cafodd broblemau gyda'r ysgol dan ddylanwad Prwsia. Yn fwy na dim, roedd yn casáu llymder yr athrawon a thriniaeth well ei gyd-ddisgyblion bonheddig. Roedd yn rhaid iddo ailadrodd ei flwyddyn gyntaf oherwydd ei atgasedd a'i salwch niferus, a wnaeth ei atal rhag mynd i'w ddosbarthiadau. Dros amser, daeth i werthfawrogi Breslau oherwydd cafodd y cyfle i ymweld â'r theatr.
Hauptmann gyda'i dad, Robert.
Yng ngwanwyn 1878, gadawodd Hauptmann y Realschule i ddysgu am amaethyddiaeth ar fferm ei ewythr yn Lohnig (heddiw Łagiewniki Średzkie yn Gmina Udanin, Gwlad Pwyl)[2]. Ar ôl blwyddyn a hanner, fodd bynnag, bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w hyfforddiant. Nid oedd yn barod yn gorfforol am y gwaith, a chafodd anhwylder ar yr ysgyfaint a fygythiodd ei fywyd ac achosodd pryder iddo am yr ugain mis nesaf.
Ar ôl iddo fethu â phasio arholiad mynediad swyddog ar gyfer Byddin Prwsia, aeth Hauptmann i'r ysgol gerfluniau yn yr Ysgol Gelf a Galwedigaethol Frenhinol yn Breslau ym 1880. Yno, cyfarfu â Josef Block a ddaeth yn ffrind gydol oes. Cafodd ei ddiarddel dros dro am "ymddygiad gwael a diwydrwydd annigonol," ond cafodd ei dderbyn yn ôl yn gyflym ar argymhelliad y cerflunydd a'r Athro Robert Härtel. Gadawodd Hauptmann yr ysgol ym 1882.
Ar gyfer priodas ei frawd, ysgrifennodd ddrama fer, Liebesfrühling, a berfformiwyd y noson gynt. Hefyd yn y briodas, cyfarfu â chwaer y briodferch, Marie Thienemann. Fe wnaethant ddyweddio'n gyfrinachol a dechreuodd Marie ei gefnogi'n ariannol, a alluogodd ef i ddechrau semester o athroniaeth a hanes llenyddol ym Mhrifysgol Jena, ond rhoddodd y gorau iddi yn fuan.