George Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1552 ![]() Nanhyfer ![]() |
Bu farw | 26 Awst 1613 ![]() |
Man preswyl | Henllys ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | naturiaethydd, daearegwr, mapiwr ![]() |
Tad | William Owen ![]() |
Mam | Elizabeth ferch George Herbert ![]() |
Plant | George Owen, Mary ferch George Owen, Jane ferch George Owens ![]() |
Hynafiaethydd, naturiaethwr ac awdur oGymru oeddGeorge Owen o Henllys (1552 -26 Awst,1613).
Ganed ef yn Henllys ym mhlwyfNanhyfer,Sir Benfro, yn fab hynaf Elizabeth Herbert a William Owen, cyfreithiwr cefnog. Addysgwyd George yn y gyfraith ynLlundain, ac yn1571 priododd Elizabeth Phillips. Bu iddynt unarddeg o blant; ganed ei fan hynaf, Alban Owen, yn1580.
Cymerai ddiddordeb mawr mewn achyddiaeth, hanes lleol a daearyddiaeth, ynSir Benfro a rhannau eraill o Gymru. Fe'i cynorthwywyd yn ei waith ganGeorge William Griffith. Bu iddo ran mewn gosod y seiliau ar gyfer astuduaeth o ddaeareg Cymru. Bu'n noddwr i nifer o feirdd Cymraeg.
Bu farw ynHwlffordd a chladdwyd ef yn Nanhyfer. Canodd y barddIeuan Tew Ieuanc farwnad iddo, gan ei gyfarch wrth ei enw mewn gwisg Gymraeg, sef Siôrs Owen.
Enwyd un nodwedd ddaearyddol ary Lleuad ar ei ôl; y grib a elwir ynDorsum Owen.
Cyhoeddodd fap o Sir Benfro (1602), a gyhoeddwyd yn chweched argraffiad yBritannia (1607).