George Henry Hall | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1881 ![]() Penrhiw-ceibr ![]() |
Bu farw | 8 Tachwedd 1965 ![]() Caerlŷr ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Prif Arglwydd y Morlys ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Plant | William Hall ![]() |
RoeddGeorge Henry Hall, is-iarll 1af Hall o Gwm Cynon (31 Rhagfyr1881 –8 Tachwedd1965) yn wleidyddLlafur Cymreig, yn Aelod Seneddol drosAberdâr ac yn aelod o lywodraethau Llafur a Llywodraeth y glymblaid yn ystod yrAil Ryfel Byd.[1]
Ganwyd George Hall ym 1881 ymMhenrhiwceibr yn fab i George Hall, glöwr a Ann (née Guard) ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Elfennol Penrhiwceibr gan ymadael a'r ysgol yn 12eng mlwydd oed.
Bu'n briod ddwywaith: ei wraig gyntaf oedd Margaret ferch William Jones; bu iddynt briodi ym 1910 a bu hi farw ym 1941. Cawsant ddau fab. Priododd Alice Martha Walker ei ail wraig ym 1964.
Wedi ymadael a'r ysgol aeth i weithio fel mwynwr ym mhwll glo Penrhiwceibr gan weithio ar y ffas hyd 1911 pan gafodd ei godi ynbwyswr ac yn gynrychiolydd iFfederasiwn Glowyr De Cymru
Ym 1908 cafodd ei ethol yn aelod Llafur o Gyngor Dosbarth Aberpennar gan dal gafael ar ei sedd hyd 1926.
Yn Etholiad cyffredinol 1922 safodd fel ymgeisydd seneddol Llafur yn etholaethAberdâr gan lwyddo cipio'r sedd oddi wrth yr Aelod BlaenorolCharles Stanton. Cadwodd y sedd hyd 1946 pan gafodd ei ddyrchafu iDŷ'r Arglwyddi.
Gwasanaethodd fel Arglwydd Sifil y Morlys o 1929 i 1931 yn llywodraethRamsay MacDonald. Bu'n Is-ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1940 i 1942, yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1940 i 1942, yn Ysgrifennydd Ariannol i'r Morlys o 1942 i 1943 ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor o 1943 i 1945 yn llywodraeth clymblaidWinston Churchill. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau 1945-1946 yn Llywodraeth LafurClement Attlee.
Fe gafodd ei urddo'n aelod o'rCyfrin Gyngor ym 1942 ac ar ôl ymddeol oDŷ'r Cyffredin ym 1946 cafodd ei ddyrchafu yn Is Iarll Hall, o Gwm Cynon yn Sir Forgannwg, gan wasanaeth fel Prif Arglwydd y Morlys yn llywodraeth Attlee o 1946 i 1951 ac yn Ddirprwy Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi o 1947 i 1951 ac yn ddirprwy arweinydd yr Arglwyddi Llafur o 1951 i 1953. Oherwydd iechyd bregus rhoddodd y gorau i fod yn Arglwydd gweithredol ym 1953.
Bu farw yngNghaerlŷr ym 1965. Daeth ei fab William yn ail Is-Iarll Hall.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Stanton | Aelod Seneddol drosAberdâr 1922 –1946 | Olynydd: David Emlyn Thomas |