actor ffilm,awdur,actor, nofelydd, actor llais,llenor, person milwrol, actor llwyfan, gyrrwr ceir cyflym, swyddog milwrol
Taldra
1.88 metr
Priod
Faye Maltese, Betsy Arakawa
Plant
Christopher Allen Hackman, Elizabeth Jean Hackman, Leslie Anne Hackman
Gwobr/au
Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Silver Bear for Best Actor, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Good Conduct Medal, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Clarence Derwent Awards
Daeth yn enwog yn ystod y1970au yn sgîl ei rôl fel Popeye Doyle ynThe French Connection, a pharhaodd i actio mewn ffilmiauHollywood, gan chwarae nifer o brif rannau gan gynnwys Harry Caul ynThe Conversation, Norman Dale ynHoosiers, Asiant Rupert Anderson ynMississippi Burning, Little Bill Daggett ynUnforgiven, Lex Luthor ynSuperman (a'r ddwy ffilm ddilynol), Capten Frank Ramsey ynCrimson Tide, Joe Moore yn Heist ac Admiral Leslie McMahon Reigart ynBehind Enemy Lines.
Cafodd Hackman ei eni ynSan Bernardino, Califfornia, yn fab i Anna Lyda Elizabeth (née Gray) ac Eugene Ezra Hackman. Daeth Anna o Ganada.[2] Symudodd y teulu i Illinois. Roedd Anna ac Eugene wedi ysgaru a gadawodd Eugene y cartref teuluol.[3] Cafodd Gene ei addysg yn Storm Lake High School.[4] Yna ymunodd â Môr-filwyr yr Unol Daleithiau. Gadawodd y lluoedd arfog yn 1951, ar ôl gwasanaethu yn Tsieina a Japan.[5]
Ar 26 Chwefror 2025 darganfuwyd Hackman a'i wraig Betsy Arakawa yn farw, yn eu cartref yn Santa Fe. Roedd un o'u cŵn wedi marw hefyd er bod eraill yn fyw. Dywedodd yr heddlu bod y ddau wedi marw ers peth amser ac roedd digon o amheuaeth i gynnal ymchwiliad.[6] Yn ddiweddarach, drwy dystiolaeth pellach, tybiwyd ei fod wedi marw ar 18 Chwefror.[7]