Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Geiriadur yr Academi

Oddi ar Wicipedia
Geiriadur yr Academi

Geiriadur yr Academi (Saesneg:The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) yw'rgeiriadurSaesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed. Ffrwyth blynyddoedd o waith gan y golygyddionBruce Griffiths aDafydd Glyn Jones ydyw. Fe'i cyhoeddwyd yn 1995 a chafodd ail gyhoeddi fel fersiwn diwygiedig ym Medi 2003.

Mae'n gyfrol swmpus o dros 1,700 tudalen (tt. lxxxi + 1716) a gyhoeddir ganGwasg Prifysgol Cymru ar ranYr Academi Gymreig. Cynhwysir llu o enwau Cymraeg am dermau newydd ym meysyddgwyddoniaeth,technoleg,cyfrifiadureg,masnach,cyfryngau torfol,addysg, a.y.b.

Yn ôl Bruce Griffiths, nid yw'n dechnegol bosibl ychwanegu at y geiriadur, ers tua 2008, gan nad yw'r wasg yn gallu newid y prif destun. Dywedodd ynGolwg, "Mi wnaethon nhw brintio cywiriadau fel atodiad i'r prif destun. Ond yn anffodus, mae'r fersiwn ar-lein wedi'i gynnwys heb yr atodiad. Er enghraifft, dydy'r gairwebsite ddim yno (ar-lein) ond mae yn yr atodiad papur."[1]

Fersiwn ar-lein

[golygu |golygu cod]

Lansiwyd fersiwn ar-lein o'r geiriadur ym mis Chwefror 2012.[2][3] Nid yw'n cynnwys y diweddariad a argraffwyd fel atodiad. Fe'i trosglwyddwyd cyfrifoldeb y fersiwn arlein i Fwrdd yr Iaith (a drodd ynGomisiynydd y Gymraeg)[4] a oedd a chyfrifoldeb i "addasu ac adnewyddu'r geiriadur". Datblygwyd y fersiwn arlein gan Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr,Prifysgol Bangor ar ran Comisiynydd y Gymraeg. Mae'n bosib chwilio’r fersiwn ar-lein gydarhyngwyneb Gymraeg neuSaesneg.

Yn 2018 roedd cyfartaledd o 9,735 o bobl yn ymweld â'r Geiriadur Arlein (geiriaduracademi.org) yn ôl Alexa Rank.[5]

Manylion cyhoeddi

[golygu |golygu cod]

Geiriadur yr Academi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995; argraffiad newydd Medi 2003).ISBN 978-0-7083-1186-8

Broliant -Y geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed yn cynnwys cyfystyron, dyfyniadau eglurhaol, priod-ddulliau, termau arbenigol a thechnegol ac ati ynghyd â disgrifiad gramadegol cryno o'r iaith. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1995. Argraffiad gyda diwygiadau ac ychwanegiadau.[6]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Pryderu am ddyfodol Geiriadur yr Academi", Golwg 24 (34): 5, 2012
  2.  Geiriadur yr Academi yn ddigidol. BBC Cymru (28 Chwefror 2012).
  3.  Geiriadur Yr Academi bellach ar gael ar y we. BBC Cymru (28 Chwefror 2012).
  4. bbc.co.uk; adalwyd 30 Ebrill 2018.
  5. geiriaduracademi.org; adalwyd 30 Ebrill 2018.
  6. gwales.com; adalwyd 30 Mai 2018.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Geiriadur_yr_Academi&oldid=5198962"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp