Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Gari Williams

Oddi ar Wicipedia
Gari Williams
FfugenwGari Williams Edit this on Wikidata
GanwydEmyr Pierce Williams Edit this on Wikidata
10 Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1990 Edit this on Wikidata
Ysbyty Walton, Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr,actor,canwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Digrifwr, canwr, actor a chyflwynydd oeddGari Williams (10 Mawrth194618 Gorffennaf1990).

Bywgraffiad

[golygu |golygu cod]

Fe'i ganwyd ymMryn Rhyd-yr-Arian gerLlansannan, yn fab hynaf i Harri Pierce a Nance Williams. Ei enw bedydd oeddEmyr Pierce Williams. Symudodd y teulu iLanrwst yn1956 ac iFochdre gerBae Colwyn yn1963.

Fe briododd Hafwen ar 17 Mai 1969 - ganed eu merch Nia yn 1977 a'u mab Guto yn 1988.

Cafodd ei daro'n ddifrifol wael yng Ngorffennaf 1990 ac fe'i cludwyd i Ysbyty Walton, Lerpwl, lle bu farw wedi gwaeledd byr.[1]

Gyrfa

[golygu |golygu cod]

Cychwynnodd berfformio yn Ionawr 1969 yn canu gyda'i frawd Elwyn. Fe ddaethEmyr ac Elwyn yn ddeuawd poblogaidd ac fe ryddhaodd y ddau nifer o recordiau ar labelCambrian.[2]. Roedd Gari yn honni fod swilder ei frawd yn golygu fod rhaid iddo wneud y gwaith cyflwyno rhwng y caneuon, ac fe ddefnyddiodd hyn i ymarfer ei ddawn berfformio a chomedi.[3]

Yn 1974 fe ddaeth yn berfformiwr proffesiynol gyda mwy o bwyslais ar gomedi na chanu. Fe awgrymodd y digrifwrRonnie Williams iddo newid ei enw llwyfan i er mwyn gallu apelio at gynulleidfa ehangach ar draws Prydain - a dewisodd Emyr yr enwGari Williams.[1]

Yn 1976 cafodd y brif ran ym mhantomeimCwmni Theatr Cymru,Madog, ac fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau Cymru. Fe ymunodd â'r opera sebonPobol y Cwm yn 1979, gan chwarae'r mecanic Edgar Sutton. YnJabas, y gyfres ddrama deledu i bobl ifanc, roedd yn chwarae Sam Llonga, tad y prif gymeriad.[4] Ymddangosodd mewn nifer o gyfresi eraill fel y gomedi sefyllfaEric gydaStewart Jones aMyfanwy Talog a'r gyfres gomediHafod Henri.[5]

Yn yr 1980au fe ddechreuodd gyflwyno'r sioeGalw Mewn arBBC Radio Cymru. Sefydlodd ef a'i frawd Elwyn Vaughan Williams y cwmni cynhyrchuCwmni'r Castell ym 1981. Ar deledu cyflwynodd y sioe gomediGalw Gari arS4C o 1982 ymlaen, y cwisTwyllo'r Teulu yn ogystal â thair cyfres o sioe adloniantRargian Fawr. Darlledwyd y bedwaredd gyfres oGalw Gari yn 1990, misoedd cyn ei farwolaeth.[1][3]

Cronfa Gari

[golygu |golygu cod]

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cronfa Gari fel elusen yn 1991.[6] Bwriad y gronfa yw cynnig cefnogaeth ariannol i unigolyn neu unigolion sy'n dymuno canolbwyntio ar adloniant byw o flaen cynulleidfa Gymraeg.[1] Ers hynny mae wedi cefnogi nifer o ddigrifwyr a digwyddiadau comedi yn y Gymraeg, yn cynnwys sawl Gala Comedi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Oriel

[golygu |golygu cod]
  • Emyr (Gari) Williams ar y chwith a'u tad yn y canol [Harri Pierce Williams] a'i frawd Elwyn ar y dde yn Eisteddfod Llanrwst 1961.
    Emyr (Gari) Williams ar y chwith a'u tad yn y canol [Harri Pierce Williams] a'i frawd Elwyn ar y dde yn Eisteddfod Llanrwst 1961.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.21.3ap Dafydd, Myrddin (1996).Mab Hynaf Musus Wilias - Cofio Gari. Llanrwst:Gwasg Carreg Gwalch.ISBN 0863813992.|access-date= requires|url= (help)
  2. Cofnod Discogs - Emyr Ac Elwyn
  3. 3.03.1 Hanes Gari Williams. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Rhagfyr 2015.
  4. Porth - Jabas ; Adalwyd 30 Rhagfyr 2015
  5. Cofio Gari Williams 70 mlynedd ers ei eni , BBC Cymru Fyw, 10 Mawrth 2016.
  6. "Manylion Elusen 'Ymddiriedolaeth Cronfa Gari'". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2025-03-10. Cyrchwyd2016-01-30.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gari_Williams&oldid=14543563"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp