Ystyrgamblo (weithiauhapchwarae) ydy rhoiarian neu rhywbeth gwerthfawr ar ddigwyddiad sydd â chanlyniad ansicr, gyda'r nod o ennill mwy o arian a/neu nwyddau materol. Fel arfer, mae canlyniad y gambl i'w weld o fewn cyfnod byr.
Mae gamblo yn weithgarwch masnachol rhyngwladol, gydag amcangyfrif o $335 biliwn wedi ei wario ar gamblo cyfreithlon yn 2009.[1] Mae mathau eraill o gamblo yn cynnwys cyfnewid deunyddiau sydd a gwerth penodol, ond na sydd yn arian go iawn; er enghraifft, gemau felPogs neuMagic: The Gathering.
DywedoddJohn Hartson yn 2012,
Rydw i edi bod yn glir o gamblo am saith mis.. mae'n dostrwydd, fel pobadiction arall, ac mae'n rhaid i fi ddelio gydag ef.
Dywedodd ei fod yn cael triniaeth ddwywaith yr wythnos gan yGamblers Association.[2]
- ↑ You bet. The Economist (8 Gorffennaf 2010).
- ↑"Brwydro i drechu gamblo", Golwg 24 (34): 5, 2012