Roedd talaith RufeinigGallia Belgica (yn llythr. ‘Gâl Felgig’) yn cynnwys y tiriogaethau sydd nawr yn rhan ddeheuolYr Iseldiroedd,Lwcsembwrg, gogledd-ddwyrainFfrainc a rhan o orllewinYr Almaen. Roedd y trigolion, yBelgae, yn gymysgedd oGeltiaid a llwythau Almaenaidd.
Yn17 CC gorchfygwyd rhaglaw y dalaith,Marcus Lollius, gan ySugambres a chipiwyd eryr y bumed lleng Alaudae. Gyrrodd AugustusTiberius aDrusus i Germania, ac wedi iddynt orchfygu'r llwythau Almaenaidd crewyd dwy dalaith filitaraidd ar lan orllewinolAfon Rhein i amddiffyn Gallia Belgica. Daeth y rhain yn daleithiauGermania Inferior aGermania Superior. Enillodd talaith Gallia Belgica diriogaeth oddi wrth Gallia Lugdunensis, a daethRheims yn brifddinas.
Rhwng 268 a 278 torrodd y llwythi Almaenaidd dros y ffin i ysbeilio Gâl, ond yn 278 llwyddodd yr ymerawdwrProbus i ail-sefydlu'r ffin. Erbyn y 5g nid oedd Gallia Belgica dan lywodraeth Rhufain, a daeth yn rhan o deyrnas yMerofingiaid. Yn yr 8g, y dalaith hon oedd calon ymerodraethSiarlymaen.