Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Gadames

Oddi ar Wicipedia
Ghadames
Mathgwerddon,tref, municipality of Libya, tref ar y ffin,ardal drefol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNalut District Edit this on Wikidata
GwladBaner Libia Libia
Arwynebedd38.4 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr357 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.13°N 9.5°E Edit this on Wikidata
Map

Trefwerddon yng ngorllewinLibia ydywGhadames (Berber:ɛadēməs;Arabeg glasurol: غدامس (Ġadāmis) [ɣaˈdæːmɪs],tafodiaith Arabeg Libia: ġdāməs). Fe'i lleolir oddeutu 540 km i'r de-orllewin oTripoli, yn agos i'r ffin gydagAlgeria aTiwnisia.

Mae poblogaeth o 7000 gan y dref, ac mae'r dinasyddion yn gymysgedd oTuareg aBerberiaid. Mae'r hen dref ynSafle Treftadaeth y Byd ar restrUNESCO. Ers talwm, roedd rhanbarth neilltuol gan bob un o saith dylwyth y dref, ac roedd man cyhoeddus gan bob un lle cynhelid gwyliau. Yn ystod y 1970au, adeiladwyd tai newydd y tu allan i'r hen dref gan y llywodraeth. Ond mae llawer o bobl yn dychwelyd i'r hen dref yn ystod yr haf, gan fod y pensaernïaeth traddodiadol yn cynnig gwell amddiffyniad rhag y gwres chwilboeth.

Daw'r cofnodion cynharaf o'r dref o'r cyfnodRhufeinig, ac fe ddaeth luoedd yno o dro i dro.Cydamus oedd yr enwLladin ar y dref. Yn ystod y6g, fe drigaiEsgob yno, wedi i'r dref troi'nGristnogol yn y cyfnodBysantaidd. Yn y7g, rheolwyd y dref gan yrArabiaid Mwslemaidd, ac fe drodd y boblogaeth atIslam yn fuan iawn. Roedd gan Ghadames swyddogaeth pwysig mewn masnach ar draws ySahara hyd at y19g.

Cysylltwyd toeau rhan helaeth o'r dref gyda'i gilydd, fel fod yna ddau system o strydoedd mewn gwirionedd: y strydoedd isaf (wedi'u gorchuddio gan fwyaf), a'r toeau. Hyd at y 1960au, roedd y gyfundrefn gymdeithasol yn mynnu fod y merched yn cerdded ar hyd y toeau, a'r dynion ar hyd y strydoedd islaw, fel mai dim ond o fewn y cartrefi y byddent yn cwrdd.

Ghadames - panorama
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gadames&oldid=11095033"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp