Cyfansoddwr oAwstria oeddFranz Peter Schubert (31 Ionawr1797 –19 Tachwedd1828).
Ganed Schubert yn Himmelpfortgrund, gerllawFienna, y trydydd ar ddeg o un ar bymtheg o blant. Roedd eisoes yn cael gwersi cerddoriaeth gan ei dad, Franz Theodor Schubert, pan oedd yn chwech oed. Ym mis Hydref1808, daeth yn aelod o'r côr yn Hofkapelle Fienna. Ceir y dyddiad8 Ebrill -1 Mai1810 ar un o'i gyfansoddiadau cynnar.
Bu'n athro cynorthwyol am gyfnod, ond fel arall nid oedd ganddo ffynhonnell ddibynadwy o arian. Bu ynHwngari am gyfnod yn1818 gweithio fel athro cerddorol i deulu Esterházy. Dim ond wedi ei farwolaeth y daeth ei gerddoriaeth yn wirioneddol boblogaidd, ond perfformiwyd dwyopera o'i waith yn1820[1] a chafodd lwyddiant gyda chyhoeddi Opus 1–7 a 10–12 yn 1821/2. Erbyn hyn roedd ei iechyd yn dirywio. Bu farw ar19 Tachwedd1828 (196 mlynedd yn ôl) wedi pythefnos o dwymyn. Claddwyd ef yn mynwent Währinger, Fienna, heb fod ymhell o feddLudwig van Beethoven.
- Tua 600 oLieder, yn cynnwys:
- y cylchoeddDie schöne Müllerin aWinterreise (i eiriau ganWilhelm Müller)
- y cylchSchwanengesang
- y cylchFräulein vom See (i eiriauWalter Scott yn "The Lady of the Lake").
- Im Abendrot,Erlkönig,Der Fischer,Die Forelle,Das Lied im Grünen,Heidenröslein,Gesänge des Harfners (3-teilig),Der Jüngling am Bach,An den Mond (6 Versionen),Der Schatzgräber,Der Tod und das Mädchen,Der Wanderer,Wanderer an den Mond,Zügenglöcklein.
- Symffoni rhif 1, D fwyaf, D 82
- Symffoni rhif 2, Bb fwyaf, D 125
- Symffoni rhif 3, D fwyaf, D 200
- Symffoni rhif 4, C leiaf, D 417 "Drasig"
- Symffoni rhif 5, Bb fwyaf, D 485
- Symffoni rhif 6, C fwyaf, D 589
- Symffoni (anghyflawn), D fwyaf, D 615
- Symffoni (anghyflawn), D fwyaf, D 708a
- Symffoni (anghyflawn), E fwyaf, D 729
- Symffoni rhif 7 (anghyflawn), B leiaf, D 759, "Anorffenedig"
- Symffoni (anghyflawn), D fwyaf, D 936a
- Symffoni rhif 9, C fwyaf, D 944, "Fawr"
- ↑The Oxford Companion to Music. gol. Alison Latham.