Princess Sophie of Hohenberg, Prince Maximilian, 1st Duke of Hohenberg, Prince Ernst of Hohenberg, stillborn son von Hohenberg
Llinach
Tŷ Hapsbwrg-Lorraine
Gwobr/au
Marchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Uwch-Farchog Croes o Urdd yr Eryr Gwyn, Grand Cross of the Imperial Order of Leopold, Urdd yr Eryr Du, Urdd Sant Andreas, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, knight of the Order of Saints Maurice and Lazarus, Urdd y Goron Haearn (Awstria), Urdd Sant Steffan o Hwngari, Order of Maria Theresa I
llofnod
Archddug Franz Ferdinand (dde) gyda'i deulu.
Franz Ferdinand (18 Rhagfyr1863 –28 Mehefin1914) oedd ArchddugAwstria, Tywysog Ymerodrol Awstria, Tywysog Brenhinol Hwngari a Bohemia, o 1896 hyd ei farwolaeth, olynydd etifedd Gorsedd Awstro-Hwngariaidd. Hyrddiodd ei fradlofruddiaeth ynSarajevo datganiad rhyfel Awstria. Achosodd hyn i'r gwledydd a oedd mewn undeb ag Awstria aSerbia, ddatgan rhyfel yn erbyn ei gilydd, gan ddechrau'rRhyfel Byd Cyntaf.[1][2]
Ganed Franz Ferdinand (Enw llawn:Franz Ferdinand Karl Ludwig Josef von Habsburg-Lothringen), ynGraz,Awstria, mab hynaf Archddug Karl Ludwig Awstria (brawd ieungaf yr Ymerawdrwr Franz Joseph a Maximilian I Mexico) a'i ail wraig, y Dywysoges Maria Annunciata o'r ddau Sicilia. Pan oedd ond deuddeg oed, bu farw ei gefnder y Dug Francis V Modena, gan enwi Franz Ferdinand yn olynydd ar yr amod ei fod yn ategu'r enw Este at enw'i hun. Felly daeth Franz Ferdinand yn Archddug ac un o'r dynion cyfoethocaf yn Awstria.
Pan fe'i ganed, doedd dim rheswm i gredu buasai Franz Ferdinand erioed yn dod yn olynydd i'r orsedd Awstro-Hwngariaidd. Cafod yr addysg arferol lym a roddwyd i bob Archddug, gyda phwyslais ar hanes a chymeriad moesol. Rhwng 1876 a 1885, ei athro oedd yr hanesyddOnno Klopp. Yn 1883, aeth Franz Ferdinand i'r Fyddin yn y rheng trydyddis-gapten.
Datblygodd Franz Ferdinand ddau ddiddordeb fel dyn ifanc, sef teithio a hela. Mae amcan iddo saethu tua 5,000 o geirw dros ei oes. Yn 1883, ymwelodd â'rEidal am y tro cyntaf i weld yr eiddo a adawyd iddo gan y Dug Francis V Modena. Yn 1885, ymwelodd â'rAifft,Palesteina,Syria, aThwrci. Yn 1889, ymwelodd â'rAlmaen.
Newidiodd ei fywyd yn ddramatig yn 1889. LladdoddRudolf, Tywysog y Goron ei hun yn ei borthdy hela ynMayerling, gan achosi i dad Franz Ferdinand, Archddug Karl Ludwig, ddod yn olynydd cyntaf i'r orsedd. O hyn ymlaen, paratowyd Franz Ferdinand i’w olynu.
Yn1895 cyfarfod Franz Ferdinand ag IarllesSophie Chotek mewn dawns ynPraha. I fod yn bartner priodi cymwys ar gyfer aelod o'r teuluHabsburg, roedd rhaid bod yn aelod o un o'r breninliniau a oedd yn teyrnasu neu a oedd yn teyrnasu gynt ynEwrop. Nid oedd y teulu Choteks yn un o'r teuluoedd rhain, er bod TywysogesBaden,Hohenzollern-Hechingen, aLiechtenstein yn un o'u hynafiaid mamol. Roedd Sophie ynlady-in-waiting i'rArchdduges Isabella, gwraigArchddug Friedrich, Dug Teschen. Dechreuodd Franz Ferdinand ymweld â Thŷ'r Archddug Friedrich yn Pressburg (rŵanBratislava). Ysgrifennodd Sophie at Franz Ferdinand yn ystod ei adferiad o'rdiciâu pan aeth i ynysLošinj ymMôr Adria. Cadwasant eu perthynas yn gyfrinach am dros ddwy flynedd.
Cymerodd Archdduges Isabella yn ganiataol fod Franz Ferdinand wedi ymserchu ag un o'i merched. Ond yn 1898, gadawodd ei oriawr ar lys tennis yn ei chartref. Agorodd yr oriawr, gan ddisgwyl gweld llun o un o'i merched yno; yn hytrach, darganfu lun o Sophie. Diswyddwyd Sophie yn syth bin.
O'r diwedd, yn 1899, cytunodd yr Ymerawdwr Franz Joseph i roi caniatâd i Franz Ferdinand i briodi Sophie, ar yr amod y buasai'r briodas yn unmorganatig ac na fyddai gan eu unrhyw hiliogaethau hawliau olynyddol i'r orsedd. Ni fuasai Sophie yn rhannu rheng ei gŵr, ei deitl, flaenoriaethau na'i freintiau; ac felly, ni fuasai'n cael ymddangos yn gyhoeddus wrth ei ochr. Ni fuasai'n cael teithio yn y cerbyd brenhinol, nac eistedd yn y blwch brenhinol.
Priodasant ar1 Gorffennaf1900, yn Reichstadt (rŵanZákupy) ynBohemia; did fynychodd Franz Joseph â'r digwyddiad, nac unrhyw Archddug arall, gan gynnwys brodyr Franz Ferdinand. Yr unig aelodau o'r teulu ymerodrol o oedd yn bresennol oedd llysfam Franz Ferdinand, Maria Theresia, a'i dwy ferch. Wedi priodi, cafodd Sophie'r teitlTywysoges Hohenberg (Fürstin von Hohenberg) gyda'r steilEich Mawrhydi Tangnefeddus (Ihre Durchlaucht). Ym 1909, cafodd y teitl uwchDuges Hohenberg (Herzogin von Hohenberg) gyda'r steilEich Mawrhydi (Ihre Hoheit). Cododd hyn ei statws cryn dipyn, ond roedd hi'n dal i gymryd blaenoriaeth yn y llys o flaen yr archddugesau eraill. Pryd bynnag y gofynnwyd gan achlysur i'r cwpl fynychu gydag aelodau eraill o'r teulu brenhinol, gorfodwyd i Sophie sefyll yn bell i lawr y llinell o ran pwysigrwydd, ar wahân i'w gŵr.
Plant Franz Ferdinand:
Tywysoges Sophie von Hohenberg (1901-1990), priododd Iarll Friedrich von Nostitz-Rieneck (1891-1973)
Maximilian, Dug of Hohenberg (1902-1962), priododd Iarlles Elisabeth von Waldburg zu Wolfegg und Waldsee (1904-1993)
Tywysog Ernst von Hohenberg (1904-1954), priododd Marie-Therese Wood (1910-1985)
carGräf & Stift o 1911 yr oedd Archddug Franz Ferdinand ynddo pan gafodd ei saethu.
Ar28 Mehefin1914, tua 11:00 y bore, lladdwyd Franz Ferdinand a'i wraig ynSarajevo, prifddinas talaith Awstro-HwngariaiddBosnia a Hertsegofina, ganGavrilo Princip, aelod o'r symudiadBosnia Ifanc ac un o saith o fradlofruddiaethau a drefnwyd gan yBlack Hand (Crna Ruka). Adnabyddir y digwyddiad felY Fradlofruddiaeth yn Sarajevo, a hyn achosodd yRhyfel Byd Cyntaf. Ymosodwyd ar Franz a Sophie gynt pan daflwyd bom i’w car. Methodd honno, ond anafwyd nifer o ddinasyddion. Mynnodd Franz Ferdinand a Sophie ymweld â'r rhai a oedd wedi eu hanafu yn yr ysbyty. Mewn canlyniad, gwelodd Princip hwy a saethodd Sophie, a fu farw'n syth. Saethwyd Franz Ferdinand yn eiwythïen yddfol' a chymerodd sawl munud i farw. Cyfrannodd y bradlofruddiaethau, ynghyd â'r ras arfau, cenedlaetholdeb a'r system undebau i ddechrau'rRhyfel Byd Cyntaf a ddechreuodd ond deufis wedi marwolaeth Franz Ferdinand, gyda datganiad rhyfel Awstria-Hwngari yn erbyn Serbia.
Gall disgrifiad manwl o'r saethu ei ganfod yn y llyfr 'Sarajevo' gan Joachim Remak[3]
...one bullet pierced Franz Ferdinand's neck while the other pierced Sophie's abdomen.....As the car was reversing (to go back to the Governor's residence because the entourage thought the Imperial couple were unhurt) a thin streak of blod shot from the Archddug's mouth onto Count Harrach's right cheek (he was standing on the car's running board). Harrach drew out a handkerchief to still the gushing blod. The Duchess, seeing this, called: "For Heaven's sake! What happened to you?" and sank from her seat, her face falling between her husband's knees.
Harrach and Potoriek...thought she had fainted...only her husband seemed to have ân instinct fôr what was happening. Turning to his wife despite the bullet in his neck, Franz Ferdinand pleaded: " Sopherl! Sopherl! Sterbe nicht! Bleibe am Leben fur unsere Kinder! - Sophie dear! Don't die! Stay alive fôr our children!" Having said this,he seemed to sag down himself. His plumed hat...fel of; many of its green feathers were found all over the car floor. Count Harrach seized the Archddug by the uniform collar to hold him up. He asked "Leiden Eure Kaiserliche Hoheit sehr? - Is Your Imperial Highness suffering very badly?" "Es ist nichts - It is nothing" said the Archddug in a weak but audible voice. He seemed to be losing consciousness, but, his voice growing steadily weaker, he repeated the phrase perhaps six or seven times more.
A rattle began to issue from his throat, which subsided as the car drew in front of the Konak (Town Hall).
(Despite several doctors' efforts, the Archddug died shortly after being caried into the building while his beloved wife was almost certainly dead from internal bleeding before the motorcade reached the Konak.) - Les Gillard