![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 976 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.17408°N 3.96323°W ![]() |
Cod OS | SH6888165909 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 41.7 metr ![]() |
Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn ![]() |
Cadwyn fynydd | Eryri ![]() |
![]() | |
Un o'r copaon ar brif griby Carneddau ywFoel Grach.
Saif rhwngCarnedd Llywelyn i'r de aCharnedd Gwenllian aFoel Fras i'r gogledd.
Fel y rhan fwyaf o'r copaon yn y Carneddau, mynydd gwelltog yw Foel Grach, ond ceir clogwyni ar yr ochr ddwyreiniol yn disgyn tuaLlyn Dulyn aLlyn Melynllyn. Mae nifer o nentydd yn tarddu ar y llethrau gorllewinol ac yn llifo i mewn iAfon Caseg.
Adeiladwyd caban fymryn islaw'r copa fel lle i gysgodi dros nos neu mewn tywydd garw i fynyddwyr sydd mewn trafferthion ar y Carneddau. Fodd bynnag, bu cwyno fod rhai mynyddwyr yn cynllunio i aros yma, yn hytrach nag yn ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig.
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) ·Garnedd Ugain (1065m) ·Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) ·Y Garn (947m) ·Glyder Fawr (999m) ·Glyder Fach (994m) ·Tryfan (915m) |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) ·Carnedd Dafydd (1044m) ·Carnedd Llywelyn (1064m) ·Yr Elen (962m) ·Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) ·Foel-fras (942m) |