Diod feddwol sy'n tarddu oRwsia ywfodca (Rwseg:водка,vodka).Diod ddi-liw ydyw, sy'n cael ei gwneud orawn megisrhyg agwenith, neudatws. Caiff y ddiod ei distyllu, a weithiau gwneir hyn sawl tro.
Fel arfer mae gan fodca gynnwys alcohol o rhwng 35% a 50% yn ôl unedau cyfaint. Mae'r fodcaRwsaidd,Lithiwanaidd aPwylaidd yn 40% (80 prawf alcohol). Gellir priodoli hyn i safonau cynhyrchu fodca Rwsiaidd a gyflwynwyd ganAlexander III ym1894.[1] Yn ôl yr Amgueddfa Fodca ymMoscow, darganfu'r cemegwr RwsaiddDmitri Mendeleev (a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn datblygu'rTabl Cyfnodol) mai'r canran perffaith o alcohol yn ei farn ef oedd 38.[2][3] Fodd bynnag, am fodgwirodydd yn cael eu trethu yn ôl canran yr alcohol a oedd ynddynt, aethpwyd a'r rhid i 40 er mwyn hwyluso'r gwaith trethu. Mae rhai llywodraethau wedi gosod lleiafswm cynnwys alcohol ar gyfer diodydd a elwir yn "fodca". Er enghraifft, dywed yrUndeb Ewropeaidd fod yn rhaid cael lleiafswm o 37.5% o alcohol yn ôl unedau cyfaint.[4]
Yn draddodiadol caiff fodca ei yfed ar ei ben ei hun yng ngwledyddDwyrain Ewrop; deillia ei boblogrwydd mewn gwledydd eraill oherwydd ei addasrwydd ar gyfercoctêls a diodydd cymysg eraill, fel y Bloody Mary, Screwdriver, Fodca Martini neu Fodca Tonic.