Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwâr (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.
O’r 19g ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20g roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. AgorwydDisney World ym 1971. Mae'n 30,500 o aceri o faint, ac mae'n denu tua 46 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.[3]
MaeCanolfan Ofod Kennedy wedi bod yn allweddol i’r hyn mae'r Unol Daleithiau wedi'i gyflawni yn y maesgofod ac mae hefyd yn denu twristiaid.