Fideo (neuvideo yn Saesneg) ydy'r dechnoleg o 'ddal' neu 'gymryd' llun symudol gydasain a hynny ynelectronig. Nid yw'rdechnoleg hon ynddigidol ond yn hytrach yn storio lluniau llonydd - y naill ar ôl y llall - i roi'r argraff o symudiad.
Fe'i datblygwyd ar gyfer teledu 'cathode ray', ond datblygodd y dechnoleg yn eitha sydyn. Defnyddir y gair erbyn hyn i ddisgrifio llun symudol digidol ar y cyfrifiadur wrth i hwnnw storio ychwaneg ar gof mwy, prosesydd cyflymach a bandllydan lletach!
"Gwelaf" ydy ystyr y gairLladinvideo. Ceir sawl fformat heddiw:DVD,QuickTime, acMPEG-4; a'r hen dapiau fideoanalog, wrth gwrs, gan gynnwys y ddau wreiddiol: VHS a Betamax. Gellir recordio a throsglwyddo fideo ardâp magnetig pan ddefnyddirPAL neu signalauNTSC. Pan ddefnyddir camerau digidol, y fformat ydy: MPEG-4 neu DV (sefDigital Video).
Ar ddiwedd yr 20ed Ganrif datblygwyd lluniau fideo 3-D (3D-video). Defnyddir chwech neu wyth camera ar gyfer y math hwn; y fformat ydy'r MPEG-4 Rhan 16 AFX (sefAnimation Framework eXtension).