Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ffynnon

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oFfynnon sanctaidd)
Ffynnon Sara
Ffynnon Dyfnog,Llanrhaedr yng Nghinmeirch

Tarddiad neu fan lle maedŵr yn codi o'r ddaear ydyffynnon; twll yn y ddaear, fel arfer.

Tyfodd rhai trefi yn ystod y19g o amgylch ffynhonnau iachusol, trefi megisLlandrindod ymMhowys gan y credir eu bod yn iachusol.

Ffynhonnau seintiau Cymru

[golygu |golygu cod]

SefydlwydCymdeithas Ffynhonnau Cymru yn 1996, gyda'r nod o warchod ffynhonnau Cymru sydd â thraddodiadau'n perthyn iddynt neu sydd o bensaerniaeth diddorol. Maent yn cyhoeddi cylchgrawn "Llygad y Ffynnon" ddwywaith y flwyddyn; y golygydd ydy'r awdur Eirlys Gruffydd.

Ers yCanol Oesoedd roedd y ffynhonnau hyn yn denu llawer o bererinion a chleifio atynt i gael eu gwella, ac roedd pob math o ofergoelion ynghlwm a nhw. Ceir dros 1,000 ohonynt yng Nghymru, gyda dros eu hanner wedi'u cysegru iseintiau Cristnogol. Mae llawer o'r ffynhonnau hyn, fodd bynnag, yn dyddio'n ôl i gyfnod cyn-Gristnogol; roedd gan yCeltiaid gryn barch at ddŵr ac roedd ganddynt dduwiau i warchod dyfroedd arbennig.

Mae dros traean o'r 1,000 yn ffynhonnau iachaol a thyrai pobl atynt i yfed y dŵr neu ymdrochi ynddo. Defnyddid rhai ffynhonnau i felltithio neu ddarogan e.e. Ffynnon Eilian (Llan-yn-Rhos, Betws-yn-Rhos) ble arferai pobl dalu i felltithio eu gelynion neu i gael gwared o felltith. Arferid hefyd addurno'r ffynhonnau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.[1]

Ffynhonnau Môn

[golygu |golygu cod]

Ceir tuag ugain o ffynhonnau hanesyddol bwysig ar Ynys Môn. Gweler:Ffynhonnau Môn.

Gwledydd eraill

[golygu |golygu cod]
Ffynnon ddŵr mewn mynachdy yn yr Almaen

Llên

[golygu |golygu cod]

Ceirchwedl hynafol o'r enwIarlles y Ffynnon lle ymddengys y Marchog Ddu pob tro mae rhywun yn tywallt ychydig ddŵr ar garreg y ffynnon.

Ffynon enwog yManneken Pis ymBrwsel.

Ffynnon, Melaka, Malaysia.

Ffynhonau o bob math

[golygu |golygu cod]

Ceir hefyd ffynhonauolew anwy.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru; adalwyd 02-0602013
Chwiliwch amffynnon
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ffynnon&oldid=12559251"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp