Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ffrio

Oddi ar Wicipedia
Ffriotoesenni.

Coginio bwyd mewnbraster neuolew poeth ywffrio.[1][2] Y ddwy brif dechneg yw ffrio mewnpadell fas dros dân, a ffrio mewn llestr dwfn gan drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew poeth. Gan y defnyddirsaim i wresogi'r bwyd, mae rhai yn ei hystyried yn dechneg o goginio sy'n defnyddio gwres sych.[3]

Caiff cigoedd brasterog megisbacwn achig eidion mâl eu ffrio gan amlaf mewn eutoddion. Yn aml dodir cig gyda llai o fraster, pysgod, a llysiau mewnblawd neugytew cyn eu ffrio. Yn ogystal â'r brasterau traddodiadol –toddion cig eidion,menyn abloneg – defnyddir hefyd olewon corn, cnau a hadau i ffrio.[3]

Dulliau

[golygu |golygu cod]

Ffrio bas

[golygu |golygu cod]

Ffrio gydag ychydig o fraster mewn padell neu lestr bas yw ffrio bas.[4]

Ffrio dwfn

[golygu |golygu cod]

Ffrio drwy drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew yw ffrio dwfn.[5]

Ffrio sych

[golygu |golygu cod]

Coginio bwydydd brasterog mewn padell nad yw'n glynu ac heb ragor o fraster yw ffrio sych.[6]

Tro-ffrio

[golygu |golygu cod]

Ffrio darnau bychain o fwyd yn gyflym mewn ychydig o fraster ar wres uchel, a'u troi'n gyson, yw tro-ffrio.[7] Gwneir yn aml mewnwoc.[8]

Ffrio'n ysgafn

[golygu |golygu cod]

Coginio mewn ychydig o fraster ar wres uchel, gan ysgwyd y badell yn gyson, yw ffrio'n ysgafn.[9] Caiff y cig neu lysiau eu brownio mewn ychydig o fenyn,saim llysiau, neu olew.[3] Ceir padell arbennig gydag ochrau syth a gwaelod llydan ar gyfer ffrio'n ysgafn.[10]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 102.
  2.  ffrio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  3. 3.03.13.2(Saesneg) frying. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  4. Geiriadur yr Academi, [frying: shallow frying].
  5. Geiriadur yr Academi, [frying: deep fat frying].
  6. Geiriadur yr Academi, [frying: dry frying].
  7. Geiriadur yr Academi, [stir: stir-fry].
  8. Good HousekeepingFood Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 449.
  9. Geiriadur yr Academi, [sauté].
  10. Good HousekeepingFood Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 450.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ffrio&oldid=1707594"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp