Y broses o wneudlluniau trwy ddefnyddiogolau ywffotograffiaeth (o'rGroeg: φωτός,photos: "golau" agraphos γραφή sef "llun" neu "olau"), gan ddefnyddiocamera.[1] Mae'ngrefft i rai,difyrwaith i eraill, a hefyd caiff ei ddefnyddio ar gyfer trosglwyddogwybodaeth, er enghraifft mewnnewyddiaduriaeth i gofnodi digwyddiadau. Mae pobol yn cadw lluniau ar bapur neu ar ffilm er enghraifft. Ceir ffotograffiaeth ffasiwn, ffotograffiaeth dogfenol, ffotograffiaeth crefft ac yn y blaen. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o gamerâu a werthir yn gamerâu digidol.
Yn 1834, yn Campinas,Brasil, sgwennodd y paentiwr a'r dyfeisiwrFfrengigHercules Florence y gair"photographie" yn ei ddyddiadur; dyma oedd y tro cyntaf i'r gair gael ei ysgrifennu mewn unrhyw iaith.
Dwy flynedd wedi dyfeisio ffotograffiaeth tynnodd y ParchCalvert Richard Jones y ffotograff cynharaf a gofnodwyd yng Nghymru. Tynnwyd ef ar y 9fed o Fawrth 1841, sef llun o Gastell Margam, tŷ ei gyfaill cefnogChristopher Rice Mansel Talbot. Defnyddiodd ddull o'r enw "daguerroteip". Roedd Calvert yn un o gylch o ffotograffwyr cynnar yn Abertawe a oedd yn troi o amgylch y diwydiannwrJohn Dillwyn Llewelyn oBenlle’r-gaer.[2]
Platdaguerreotype oGastell Margam a dynnwyd gan y ParchCalvert Richard Jones, sef y ffotograff cynatf i'w gymryd yng Nghymru, mae'n debyg a hynny ar y 9fed o Fawrth 1841. Mae'r llun hwn o safon uchel iawn (am ei gyfnod) ac yn bwysig yn hanes ffotograffiaeth y byd.
DyfeisioddWilliam Henry Fox Talbot broses ffotograffig arall a oedd yn fwy llwyddiannus. Gan ddefnyddio negatifs papur, roedd proses Talbot yn caniatáu i nifer o gopïau gael eu gwneud. Roedd Talbot yn gefnder i Emma, gwraig John Dillwyn Llewelyn. Daeth John Dillwyn Llewelyn a’i deulu yn arloeswyr cynnar ffotograffiaeth yn ystod yr 1840au a 1850au.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol dros 800,000 o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru.
Yn 1863 dechreuoddJohn Thomas werthucartes des visite o enwogion Cymreig y dydd. Roedd hefyd yn tynnu ffotograffau o bobl gyffredin, yn aml wrth eu gwaith. Cofir amdano fwyaf heddiw am ei olygfeydd topograffig. Mae dros 3,000 o ffotograffau John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol.