Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Y Ffindir

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oFfindir)
Y Ffindir
Suomen tasavalta
ArwyddairO na bawn yn y Ffindir Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran,gwlad, gwladwriaeth unedol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFfiniaid Edit this on Wikidata
PrifddinasHelsinki Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,608,218 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Rhagfyr 1917 Edit this on Wikidata
AnthemMaamme/Vårt land Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPetteri Orpo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
NawddsantSant Harri o'r Ffindir Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffinneg,Swedeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolFfenosgandia,Gwledydd Nordig,Gogledd Ewrop,yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd338,478.34 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSweden,Norwy,Rwsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau65°N 27°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth y Ffindir Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd y Ffindir Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd y Fffindir Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAlexander Stubb Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog y Ffindir Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPetteri Orpo Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$296,388 million, $280,826 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith9 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.75 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.94 Edit this on Wikidata
Prif adeiladSenedd y Ffindir yn Helsinki
Neuadd Senedd y Ffindir

Ffindir (hefydGweriniaeth y Ffindir) yw'r wlad Nordig fwyaf dwyreiniol yngNgogledd Ewrop . Mae'n ffinio âSweden i'r gogledd-orllewin,Norwy i'r gogledd, aRwsia i'r dwyrain, gyda Gwlff Bothnia i'r gorllewin aGwlff y Ffindir i'r de, gyferbynag Estonia. Arwynebedd Ffindir yw 338,145 cilometr sgwar (130,559 milltir sgwar) ac mae ganddi boblogaeth o 5.6 miliwn.Helsinki yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf; o ran poblogaeth, mae tua'r un maint a'rAlban, sef XXXFfiniaid ethnig yw mwyafrif helaeth y boblogaeth;Ffinneg aSwedeg yw'r ieithoedd swyddogol, gyda Swedeg yn iaith frodorol i 5.2% o'r boblogaeth.[1] Mae hinsawdd y Ffindir yn amrywio o hinsawdd gyfandirol llaith yn y de i hinsawdd boreal yn y gogledd. Coedwigoedd boreal yw'r gorchudd tir yn bennaf, gyda mwy na 180,000 o lynnoedd wedi'u cofnodi.[2]

Ceir olion dynol yma o tua 9,000 CC ar ôl yrOes Iâ ddiwethaf.[3] Yn ystodOes y Cerrig, daeth diwylliannau amrywiol i'r amlwg, a gellir gwahaniaethu rhyngddyn nhw drwy edrych ar eu gwahanol fathau o serameg. Cafodd yrOes Efydd a'rOes Haearn eu nodi gan gysylltiadau â diwylliannau eraill yn Fennoscandia arhanbarth y Baltig.[4] O ddiwedd y13g, daeth y Ffindir yn rhan o Sweden o ganlyniad i Groesgadau'r Gogledd. Ym 1809, o ganlyniad i Ryfel y Ffindir, daeth y Ffindir yn rhan oYmerodraeth Rwsia felPrif Ddugiaeth ymreolaethol y Ffindir. Yn ystod y cyfnod hwn, ffynnodd celf y Ffindir a dechreuodd y syniad o annibyniaeth gydio. Ym 1906, y Ffindir oedd y wladwriaeth Ewropeaidd gyntaf i roi pleidlais gyffredinol i'w dinasyddion, a'r gyntaf yn y byd i roi'r hawl i bob oedolyn heisio am swydd gyhoeddus.[5][6] Yn dilynChwyldro Rwsia yn 1917, datganodd y Ffindir ei hannibyniaeth oddi wrth Rwsia, ar 6ed o Ragfyr. Ym 1918 rhannwyd y genedl ifanc ganRyfel Cartref y Ffindir. Yn ystod yrAil Ryfel Byd, ymladdodd y Ffindir yn erbyn yrUndeb Sofietaidd yn Rhyfel y Gaeaf a'r Rhyfel Parhad, ac yn ddiweddarach yn erbynyr Almaen Natsïaidd yn Rhyfel Lapdir. O ganlyniad, collodd rannau o'i diriogaeth ond cadwodd ei hannibyniaeth.

Parhaodd y Ffindir ynwlad amaethyddol yn bennaf tan y1950au. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, diwydiannodd yn gyflym a sefydlodd economi ddatblygedig, gydagwladwriaeth les wedi'i hadeiladu ar y model Nordig. Caniataodd hyn i'r ffynnu a chafwyd incwm uchel y pen.[7] Yn ystod yRhyfel Oer, cofleidiodd y Ffindir yn swyddogol bolisi o niwtraliaeth. Ers hynny, daeth yn aelod o'rUndeb Ewropeaidd yn 1995, yn Ardal yrEwro yn 1999, ac yn aelod oNATO yn 2023. Mae'r Ffindir yn aelod o sefydliadau rhyngwladol amrywiol gan gynnwys yCenhedloedd Unedig, yCyngor Nordig, Ardal Schengen,Cyngor Ewrop,Sefydliad Masnach y Byd, a'rSefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae'r genedl yn perfformio'n arbennig o dda mewn metrigau perfformiad cenedlaethol, gan gynnwys addysg, cystadleurwydd economaidd, rhyddid sifil, ansawdd bywyd, a datblygiad dynol.[8][9][10][11]

Hanes

[golygu |golygu cod]

Cynhanes

[golygu |golygu cod]

Ymsefydlodd pobl yn yr ardal a elwir heddiw'n Ffindir, tua 8,500 CC yn ystodOes y Cerrig tua diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf. Mae gan lawer o'r arteffactau a adawodd y gwladfawyr cyntaf ar ôl nodweddion tebyg iawn i'r rhai a geir ynEstonia, Rwsia, a Norwy.[12] Helwyr-gasglwyr oedd y bobl gynharaf hyn, ac roedden nhw'n defnyddio offer carreg.[13]

Ymddangosodd y crochenwaith cyntaf yn 5,200 CC, pan gyflwynwyd y diwylliant 'Cerameg Crib'.[14] Yna daeth 'Crochenwaith Cordeddog' i arfordir deheuol y Ffindir rhwng 3,000 a 2,500 CC cyfnod sy'n cyd-daro â dechrauamaethyddiaeth.[15] Hyd yn oed gyda chyflwyniad amaethyddiaeth, roedd hela a physgota'n parhau i fod yn rhannau pwysig o'r economi a'r ffordd o fyw.

Arth oOes y Cerrig a ddarganfuwyd yn Paltamo, Kainuu[16][17]

Yn yrOes Efydd ymledodd amaethu parhaol trwy gydol y flwyddyn ac felly hwsmonaeth anifeiliaid hefyd, ond arafodd y newid oherwydd cyfnod o hinsawdd oer iawn.[18] Daeth y ffenomen Seima-Turbino â'r arteffactau efydd cyntaf i'r rhanbarth ac o bosibl hefyd yrieithoedd Finno-Ugric.[18][19] Dechreuodd cysylltiadau masnachol ymestyn i Sgandinafia a dechreuodd gweithgynhyrchu o arteffactau efydd mewn cartrefi yn1300 CC.[20]

Yn yrOes Haearn tyfodd y boblogaeth. Ffindir Fwyaf (sef y De-Orllewin) oedd yr ardal fwyaf poblog. Tyfodd ac ymestynnodd cysylltiadau masnachol yn rhanbarthMôr y Baltig yn ystod yr 8g a'r 9g. Y prif allforion o'r Ffindir oedd ffwr,caethweision,sachau'r afanc, ahebogiaid i lysoedd Ewropeaidd. Roedd mewnforion yn cynnwyssidan a ffabrigau eraill,gemwaith,cleddyfau Ulfberht, ac, i raddau llai,gwydr. Dechreuwyd cynhyrchu haearn tua 500 CC[21] Ar ddiwedd y 9g, roedd gan ddiwylliant arteffactau brodorol, yn enwedig arfau a gemwaith menywod, nodweddion lleol cyffredin nag erioed o'r blaen a dehonglir hyn i fod yn fynegiant o hunaniaeth y Ffindir.[22]

Ymledodd ffurf gynnar ar ieithoedd Ffinneg i ranbarth Môr y Baltig tua 1,900 CC. Roedd yr iaith Ffinneg gyffredin yn cael ei siarad o gwmpasGwlff y Ffindir tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth y tafodieithoedd y datblygwyd yr iaith Ffinneg gyfoes ohonynt i fodolaeth yn ystod Oes yr Haearn.[23] Er eu bod yn perthyn o bell, cadwodd ySami ffordd o fyw'r heliwr-gasglwr yn hirach na'r Ffindir. Mae hunaniaeth ddiwylliannol y Sami a'riaith Sami wedi goroesi ynLapdir, y dalaith fwyaf gogleddol.

Mae gan yr enw Suomi darddiad ansicr, ond y geirdarddiad mwyaf cyffredin yw ei fod yn tarddu o saame (y Sami).[24] Yn y ffynonellau hanesyddol cynharaf, o'r 12g a'r 13g, mae'r term Ffindir yn cyfeirio at y rhanbarth arfordirol o amgylchTurku. Daeth y rhanbarth hwn i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel 'Ffindir Fwyaf' er mwyn gwahaniaethu ag enw'r wlad.[25]

Y Cyfnod Swedaidd

[golygu |golygu cod]
LocomotifVR Dosbarth Sr2 . Mae'rVR sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn gweithredu rhwydwaith rheilffordd ac yn gwasanaethu holl ddinasoedd mawr y Ffindir.

Roedd y12g a'r13g yn gyfnodau treisgar yng ngogledd Môr y Baltig. Roedd y Croesgad Livonaidd yn parhau ac roedd llwythau'r Ffindir ee y Tavasiaid a'r Kareliaid yn gwrthdaro'n aml â Novgorod ac â'i gilydd. Hefyd, yn ystod y 12g a'r 13g gwnaethpwyd sawl croesgad o deyrnasoedd Catholig ardal Môr y Baltig yn erbyn llwythau'r Ffindir. YmladdoddDaniaid o leiaf dair croesgad yn erbyn pobl Ffindir, yn 1187 neu ychydig yn gynharach,[26] yn 1191 ac yn 1202,[27] acSwedeiaid, o bosibl yr ail groesgad i'r Ffindir, ym 1249 yn erbyn Tafasiaid a'r drydedd groesgad i'r Ffindir yn 1293 yn erbyn y Kareliaid.[28]

O ganlyniad i'r croesgadau a gwladychu rhai ardaloedd arfordirol y Ffindir gyda phoblogaeth Swedaidd yn ystod yr Oesoedd Canol,[29] yn raddol daeth y Ffindir yn rhan odeyrnas Sweden a dylanwad yrEglwys Gatholig.[30] O dan Sweden, atodwyd Ffindir fel rhan o drefn ddiwylliannolGorllewin Ewrop.[31]

Bellach yn gorwedd o fewn Helsinki, mae Suomenlinna ynSafle Treftadaeth y Byd UNESCO sy'n cynnwys caer arfordirol o'r18g a adeiladwyd ar chwe ynys. Mae'n un o atyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd y Ffindir.

Swedeg oedd prif iaith yr uchelwyr, y weinyddiaeth, ac addysg;y Ffinneg oedd iaith y werin, y clerigwyr a'rllysoedd lleol yn bennaf yn yr ardaloedd Ffinneg eu hiaith. Yn ystod yDiwygiad Protestannaidd, trodd yFfiniaid yn raddol atyr Eglwys Lutheraidd.[32]

Yn yr16g cyhoeddodd esgob a Diwygiwr Lutheraidd Mikael Agricola y gweithiau ysgrifenedig cyntaf yn Ffinneg;[33] a sefydlwyd prifddinas bresennol y Ffindir,Helsinki, gan y Brenin Gustav Vasa yn 1555.[34] Sefydlwyd y brifysgol gyntaf yn y Ffindir, sef Academi Frenhinol Turku, gan y FrenhinesChristina o Sweden ar gynnig iarll Per Brahe yn 1640.[35][36]

Yn y 18g, arweiniodd rhyfeloedd rhwng Sweden aRwsia ddwywaith at feddiannu'r Ffindir gan luoedd Rwsia, amseroedd a adwaenir yn y Ffindir fel y Digofaint Mwawr (1714–1721) a'r DigofaintBach (1742–1743).[37][38] Amcangyfrifir miloedd o ddynion wedi marw yn ystod y Digofaint Mwawr yn bennaf oherwydd dinistrio cartrefi, ffermydd, a llosgi Helsinki.[39]

Rhyfel cartref ac annibyniaeth gynnar

[golygu |golygu cod]

Mae'rVR sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn gweithredu rhwydwaith rheilffordd ac yn gwasanaethu holl ddinasoedd mawr y Ffindir. Ar ôl Chwyldro Chwefror 1917, cwestiynwyd safle'r Ffindir fel rhan o Ymerodraeth Rwsia, yn bennaf gan y Democratiaid Cymdeithasol. Pasiodd Senedd y Ffindir, a reolwyd gan ddemocratiaid cymdeithasol, yr hyn a elwir yn Ddeddf Pwer a roddodd cryn awdurdod i'r Senedd. Gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Dros Dro Rwsia a benderfynodd ddiddymu'r Senedd.[40] Cynhaliwyd etholiadau newydd, lle'r enillodd pleidiau asgell dde gyda mwyafrif bychan. Roedd rhai democratiaid cymdeithasol yn gwrthod derbyn y canlyniad ac yn dal i honni bod diddymu'r senedd (ac felly'r etholiadau dilynol) yn anghyfreithiol. Roedd y ddau floc gwleidyddol bron yr un mor bwerus, y pleidiau asgell dde, a'r blaid gymdeithasol-ddemocrataidd a oedd wedi'u cythruddo'n fawr.

Arweinydd milwrol y Ffindir a gwladweinydd CGE Mannerheim felswyddog cyffredinol yn arwain Gorymdaith y Fuddugoliaeth Wen ar ddiweddRhyfel Cartref y Ffindir yn Helsinki yn 1918.

Newidiodd Chwyldro Hydref Rwsia y sefyllfa daear-wleidyddol unwaith eto. Yn sydyn, dechreuodd y pleidiau asgell dde'r Ffindir ailystyried eu penderfyniad i rwystro trosglwyddo’r pŵer gweithredol uchaf o lywodraeth Rwsia i’r Ffindir, wrth i’rBolsieficiaid gipio grym yn Rwsia. Cyflwynodd y llywodraeth asgell dde, dan arweiniad y Prif Weinidog PE Svinhufvud, yDatganiad Annibyniaeth ar 4 Rhagfyr 1917, a gymeradwywyd yn swyddogol ar 6 Rhagfyr, gan Senedd y Ffindir. Cydnabu Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsia (RSFSR), dan arweiniadVladimir Lenin, annibyniaeth Ffindir ar 4 Ionawr 1918.[41]

Ar ôl arbrawf byr gyda brenhiniaeth, pan gafwyd ymgais aflwyddiannus i wneud y Tywysog Frederick Charles o Hesse yn Frenin y Ffindir, daeth y Ffindir yn weriniaeth arlywyddol, gyda KJ Ståhlberg yn cael ei ethol yn arlywydd cyntaf yn 1919. Felcenedlaetholwr rhyddfrydol gyda chefndir cyfreithiol, angorodd Ståhlberg y wladwriaeth mewn democratiaeth ryddfrydol, cefnogodd reolaeth y gyfraith, a chychwynnodd ar ddiwygiadau mewnol.[42] Roedd y Ffindir hefyd yn un o'r gwledydd Ewropeaidd cyntaf i anelu'n gryf atgydraddoldeb i fenywod, gyda Miina Sillanpää yn gwasanaethu yng nghabinet Väinö Tanner fel y gweinidog benywaidd cyntaf yn hanes y Ffindir yn 1926–192.[43] Diffiniwyd y ffin rhwng y Ffindir a Rwsia yn 1920 gan Gytundeb Tartu, yn dilyn y ffin hanesyddol i raddau helaeth ond yn rhoi Pechenga a'i harbwrMôr Barents i'r Ffindir.[37] Goroesodd y mudiad gwrth-gomiwnyddol Lapua.

Ym 1917, pan ddaeth y Ffindir yn wlad annibynnol roedd y boblogaeth yn dair miliwnblogaeth Cymru yn 2024. Daethdiwygio tir ar sail credyd i rym ar ôl y rhyfel cartref, gan gynyddu cyfran y boblogaeth a oedd yn berchen ar gyfalaf.[44] Roedd tua 70% o'r gweithwyr yn gweithio mewn amaethyddiaeth a 10% mewn diwydiant.[45]

Ail Ryfel Byd

[golygu |golygu cod]

 

Byddinoedd y Ffindir yn codi baner ar y garnedd tair gwlad yn Ebrill 1945 ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn y Ffindir .

Lansiodd yrUndeb Sofietaidd Ryfel y Gaeaf ar 30 Tachwedd 1939 mewn ymdrech i atodi Ffindir yn rhan ohoni.[46] Sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Ffindir ganJoseph Stalin ar ddechrau'r rhyfel i lywodraethu'r Ffindir ar ôl y goncwest Sofietaidd.[47] Gorchfygwyd yFyddin Goch mewn sawl brwydr, yn arbennig ym Mrwydr Suomussalmi. Ar ddiwedd Ionawr 1940, ar ôl dau fis heb fawr o gynnydd ar faes y gad, yn ogystal â cholledion difrifol o ddynion ac offer, rhoddodd y Sofietiaid y goraui o'w syniadau, gan gydnabod llywodraeth gyfreithiol y Ffindir.[48] Llwyddodd y Ffindir i amddiffyn ei hannibyniaeth, ond ildiodd 9% o'i thiriogaeth i'r Undeb Sofietaidd.

Ardaloedd a ildiwyd gan y Ffindir i'rUndeb Sofietaidd yn ystodyr Ail Ryfel Byd - mewn coch. Dychwelwyd prydles tir Porkkala i'r Ffindir ym 1956.

Ar ôl y rhyfel

[golygu |golygu cod]
Urho Kekkonen oedd arlywydd hiraf ei wasanaeth yn y Ffindir rhwng 1956-1982.

Arweiniodd sefydlu masnach gyda phwerau'r Gorllewin a thalu iawndal i'r Undeb Sofietaidd at drawsnewid y Ffindir o economi amaethyddol yn bennaf i un ddiwydiannol. Sefydlwyd Valmet (iard longau yn wreiddiol, yna sawl gweithdy metel) i greu deunyddiau. Ar ôl talu'r iawndaliadau rhyfel, parhaodd y Ffindir i fasnachu â'r Undeb Sofietaidd mewn fframwaith ddwyochrog.

Cynhaliodd y Ffindir eu heconomi drwy fasnachu ac elwodd diwydiannau amrywiol o fasnachu gyda'r Sofietiaid. Cafwyd twf economaidd cyflym yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, ac erbyn 1975 roeddCMC y pen y Ffindir y 15fed uchaf yn y byd. Yn y 1970au a'r 1980au, adeiladodd y Ffindir un owladwriaethau lles mwyaf helaeth a llwyddiannus yn y byd. Trafododd y Ffindir gytundeb gyda'rGymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd) gan ddechrau o 1977. Ym 1981, fe wnaeth iechyd gwael yr Arlywydd Urho Kekkonen ei orfodi i ymddeol ar ôl dal ei swydd am 25 mlynedd.

Cafwyd dirwasgiad dwfn yn y 1990au cynnar yn y Ffindir a daeth i ben ym 1993, a gwelodd y Ffindir dwf economaidd cyson am fwy na deng mlynedd.[49] Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, trodd y Ffindir ei olwg fwyfwy tua'r Gorllewin. Ymunodd â'rUndeb Ewropeaidd yn 1995, ac Ardal yrEwro ym 1999. Ysgogwyd llawer o dwf economaidd diwedd y 1990au gan lwyddiant y gwneuthurwr ffonau symudol Nokia.[31]

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Map topograffig o'r Ffindir

Mae'r Ffindir yn gorwedd rhwng lledredau 60° a 70° N, a hydred 20° a 32° E, ac mae'n un o wledydd mwyaf gogleddol y byd. O brifddinasoedd y byd, dim ondReykjavík sy'n gorwedd mwy i'r gogledd na Helsinki. Y pellter o'r pwynt mwyaf deheuol - Hanko yn Uusimaa - i'r mwyaf gogleddol -Nuorgam yn Lapdir - yw 1,160 cilometr (720 milltir).

Ceir tua 168,000 o lynnoedd (o arwynebedd mwy na 500 milltir sgwar) a 179,000 o ynysoedd.[50] Ei llyn mwyaf,Saimaa, yw'r pedwerydd mwyaf yn Ewrop. Ardal y Llynnoedd yw'r ardal sydd â'r nifer fwyaf o lynnoedd yn y wlad; mae llawer o ddinasoedd mawr yr ardal, yn fwyaf nodedigTampere, Jyväskylä aKuopio, wedi'u lleoli ger y llynnoedd mawr. Mae'r crynodiad mwyaf o ynysoedd i'w gael yn y de-orllewin, ym Môr yr Archipelago rhwng cyfandir y Ffindir a phrif ynys Åland.

Mae llawer o ddaearyddiaeth y Ffindir yn ganlyniad iOes yr Iâ. Roedd y rhewlifoedd yn fwy trwchus ac yn para'n hirach yn Fennoscandia o gymharu â gweddill Ewrop. Mae eu heffeithiau erydu wedi gadael tirwedd y Ffindir yn eitha gwastad, yn bennaf gydag ychydig o fryniau a llai o fynyddoedd. Ei bwynt uchaf, yw Halti, sy'n 1,324 metr yng ngogledd eithaf Lapdir ar y ffin rhwng y Ffindir a Norwy. Gellir cymharu uchder Haiti i'r Wyddfa, sydd fymryn yn llai, sef 1,085 m. Y mynydd uchaf y mae ei gopa yn gyfan gwbl yn y Ffindir yw Ridnitšohkka sy'n 1,316 metr a saif yn union gerllaw Halti.

Ar ôl cael ei gywasgu o dan bwysau aruthrol y rhewlifoedd, mae tir mawr y Ffindir yn codi oherwydd yr adlam ôl-rewlifol. Mae'r effaith ar ei chryfaf o amgylch Gwlff Bothnia, lle mae'r tir yn codi'n raddol tua 1 centimetr y flwyddyn. O ganlyniad, mae hen wely'r môr yn troi ychydig ar y tro yn dir sych ac felly mae arwynebedd y wlad yn ehangu tua 7 cilometr sgwar yn flynyddol.[51] Mewn geiriau eraill, mae'r Ffindir yn codi o'r môr.[52]

Bioamrywiaeth

[golygu |golygu cod]
Yn y Ffindir, mae ceirw'n pori yn ardal Lapdir a rhai mannau eraill.

Yn ffyto-ddaearyddol, rhennir y Ffindir rhwng ardaloedd yrArctig,canolbarth Ewrop, ac ardaloedd gogleddol y Rhanbarth Circumboreal o fewn y Deyrnas Boreal. Yn ôl yWWF, gellir rhannu tiriogaeth y Ffindir yn dri ecoleg: y taiga Sgandinafaidd a Rwsiaidd, coedwigoedd cymysg Sarmatig, a choedwig bedw'r mynyddoedd a'r glaswelltiroedd.[53] Mae Taiga yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r Ffindir o ranbarthau gogleddol taleithiau deheuol i'r gogledd o Lapdir. Ar yr arfordir de-orllewinol, i'r de o linell Helsinki- Rauma, nodweddir coedwigoedd gan goedwigoedd cymysg, sy'n fwy nodweddiadol yn rhanbarth y Baltig. Yng ngogledd eithaf y Ffindir, ger y llinell y coed aChefnfor yr Arctig, mae coedwigoedd bedw Montane yn gyffredin. Roedd gan y Ffindir sgôr gymedrig Mynegai Uniondeb Tirwedd Coedwig 2018 o 5.08/10, gan ei gosod yn 109fed yn fyd-eang allan o 172 o wledydd.[54]

Yn yr un modd, mae gan y Ffindir ystod amrywiol a helaeth offawna. Mae o leiaf chwe-deg o rywogaethaumamalaidd brodorol, 248 o rywogaethau adar, dros 70 o rywogaethau o bysgod, ac 11 o rywogaethau o ymlusgiaid a brogaod yno heddiw, gyda llawer ohonynt wedi mudo o wledydd cyfagos filoedd o flynyddoedd yn ôl. Y mamaliaid mawr yn y Ffindir yw'rarth frown,y blaidd llwyd, y wolverine a'relc. Tri o'r adar mwyaf trawiadol ywalarch y Gogledd, yr alarch Ewropeaidd fawr (sef aderyn cenedlaethol y Ffindir); yGrugiar coed, aelod mawr o deulu'r rugiar ddu; aceryrdylluan Ewrop. Ystyrir bod yr olaf yn ddangosydd pwysig o hen goedwigoedd ac mae ei niferoedd wedi bod yn dirywio oherwydd darnio'r tirwedd.[55]

Mae tua 24,000 o rywogaethau o bryfed yn gyffredin yn y Ffindir; ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae'rgacynen gyda llwythau ochwilod fel yr Onciderini hefyd yn gyffredin. Yr adar magu mwyaf cyffredin ywtelor yr helyg, yji-binc a'rcoch dan adain.[56] O ryw saith-deg o rywogaethau o bysgod dŵr croyw, mae'rpenhwyad gogleddol, y draenogod, yn doreithiog. Maeeog yr Iwerydd yn parhau i fod yn ffefryn gan y rhai sy'n frwd dros bysgota gwialen.

Llywodraeth a gwleidyddiaeth

[golygu |golygu cod]

Cyfansoddiad

[golygu |golygu cod]

Mae Cyfansoddiad y Ffindir yn diffinio'r system wleidyddol; mae'nweriniaeth seneddol o fewn fframwaith democratiaeth gynrychioliadol(representative democracy) . Y Prif Weinidog yw person mwyaf pwerus y wlad. Gall dinasyddion gael eu hethol a phleidleisio mewn etholiadau seneddol, dinesig, arlywyddol ac etholiadau'r Undeb Ewropeaidd.

Llywydd

[golygu |golygu cod]

Pennaeth gwladwriaeth y Ffindir yw Llywydd y Weriniaeth. Bu gan y Ffindir am y rhan fwyaf o’i hannibyniaeth system lled-arlywyddol o lywodraeth, ond yn y degawdau diwethaf mae pwerau’r Arlywydd wedi dod yn fwy amgylchiadol, ac o ganlyniad mae’r wlad bellach yn cael ei hystyried yn weriniaeth seneddol.[57] Mae cyfansoddiad newydd a ddeddfwyd yn 2000, wedi gwneud y llywyddiaeth yn swydd seremonïol gan fwyaf, sy'n penodi'r Prif Weinidog a etholir gan y Senedd, ac sy'n penodi ac sy'n diswyddo gweinidogion eraill Llywodraeth y Ffindir ar argymheliad y Prif Weinidog. Ymhlith y dyletswyddau eraill y mae agor sesiynau seneddol, a chyflwyno anrhydeddau'r wladwriaeth. Serch hynny, mae'r Llywydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gysylltiadau tramor y Ffindir, gan gynnwys gwneud rhyfel a heddwch, ond heb gynnwys materion sy'n ymwneud â'rUndeb Ewropeaidd.

Ar ben hynny, mae'r Llywydd yn ben ar Luoedd Amddiffyn y Ffindir fel y Prif Cadlywydd. Wrth arfer ei bwerau tramor ac amddiffyn, mae'n ofynnol i'r Llywydd ymgynghori â Llywodraeth y Ffindir, ond nid yw cyngor y Llywodraeth yn rhwym i dderbyn ei gyngorl. Yn ogystal, mae gan y Llywydd nifer o bwerau wrth gefn domestig, gan gynnwys yr awdurdod i roi feto ar ddeddfwriaeth, i roi pardwn, ac i benodi sawl swyddog cyhoeddus. Mae'r Cyfansoddiad hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd ddiswyddo gweinidogion unigol neu'r Llywodraeth gyfan ar bleidlais seneddol o ddiffyg hyder.[58]

Senedd

[golygu |golygu cod]

Senedd unsiambrog (unicameral) sydd gan Ffindir , gyda 200 aelod o'i mewn; dyma awdurdod deddfwriaethol goruchaf y wlad. Gall y Senedd newid y cyfansoddiad a'r deddfau cyffredin, gall ddiswyddo'r cabinet, a gall ddiddymu'r feto arlywyddol. Nid yw ei weithredoedd yn agored i adolygiad barnwrol; asesir cyfansoddiad cyfreithiau newydd gan bwyllgor cyfraith gyfansoddiadol y senedd. Mae'r senedd yn cael ei hethol am dymor o bedair blynedd gan ddefnyddiodull cyfrannol D'Hondt o fewn nifer o etholaethau aml-sedd drwy'r rhanbarthau aml-aelod ar restr agored. Mae pwyllgorau seneddol amrywiol yn gwrando ar arbenigwyr ac yn paratoi deddfwriaeth.

Nawdd cymdeithasol

[golygu |golygu cod]

Hawliau Dynol

[golygu |golygu cod]

Dywed Adran 6 o Gyfansoddiad y Ffindir: "Ni ddylid gwahaniaethu o ran rhyw, oedran, tarddiad, iaith, crefydd, cred, barn, iechyd, anabledd neu unrhyw reswm personol arall heb reswm derbyniol".[59]

Mae'r Ffindir wedi'i gosod yn uwch na'r cyfartaledd ymhlith gwledydd y byd mewndemocratiaeth,[60]rhyddid y wasg,[61] a datblygiad dynol.[62] MynegoddAmnest Rhyngwladol eu pryder ynghylch rhai materion yn y Ffindir, megis carcharugwrthwynebwyr cydwybodol, a gwahaniaethu cymdeithasol yn erbynpobl Romani ac aelodau o leiafrifoedd ethnig ac ieithyddol eraill.[63][64]

Economi

[golygu |golygu cod]

Yn 2022 roedd economi Ffindir y 16ed forau (o ran CMC (GDP) y pen, yn ol yrIMF. Yn ogystal, mae gan y Ffindir system les effeithiol iawn sy'n cwmpasu addysg am ddim a gofal iechyd cyffredinol, gan gyfrannu at ei henw da fel un o'r cenhedloedd cyfoethocaf.

Ysector gwasanaeth yw'r rhan fwyaf o'r economi, sef 66% o'r CMC, tra bodgweithgynhyrchu a mireinio yn cyfrif am 31%. Maecynhyrchu cynradd yn cyfrif am 2.9% o'r economi.[65] Gweithgynhyrchu yw'r sector economaidd sylfaenol sy'n ymwneud âmasnach dramor .[66] Y prif sectorau diwydiannol yn 2007 oeddelectroneg (22%), peiriannau,cerbydau, a chynhyrchion metel peirianyddol eraill (21.1%), diwydiant coedwigaeth (13%), a chemegau (11%). Cyrhaeddodd y cynnyrch mewnwladol crynswth ei uchafbwynt yn 2021.[67] Mae'r Ffindir yn chweched yn y Mynegai Arloesedd Byd-eang 2023.[68]

Mae gan y Ffindir gryn dipyn o bren,mwynau (gan gynnwyshaearn,cromiwm,copr,nicel acaur ) ac adnoddau dŵr croyw. Ar gyfer y boblogaeth wledig, maecoedwigaeth, melinau papur acamaethyddiaeth yn hynod o bwysig. Mae ardal Helsinki Fwyaf yn cyfrif am tua thraean o CMC y Ffindir. Gwasanaethau preifat yw'r cyflogwr mwyaf yn y wlad.

Mae gan y Ffindir y crynodiad uchaf ogwmnïau cydweithredol o'i gymharu â'i phoblogaeth.[69] ee mae cyflogwr preifat mwyaf y Ffindir, S-Group, a'r banc mwyaf, OP-Group, ill dau yn gwmnïau cydweithredol.

Cludiant

[golygu |golygu cod]

Mae system ffyrdd y Ffindir yn cael ei defnyddio gan y rhan fwyaf o draffig cargo a theithwyr mewnol. Mae'r wladwriaeth yn gwario tua €1 biliwn ar rwydwaith ffyrdd, yn flynyddol. Ymhlith priffyrdd y Ffindir, y mwyaf arwyddocaol a phrysuraf yw: Priffordd Turku, Priffordd Tampere, Priffordd Lahti, a chylchffyrdd I a III yn ardal fetropolitan Helsinki a Chylchffordd Tampere yn ardal drefol Tampere.[70]

Prif faesawyr teithwyr rhyngwladol yw Maes Awyr Helsinki, a hedfanodd tua 21 miliwn o deithwyr drwyddo yn 2019. Maes Awyr Oulu yw'r ail fwyaf gyda 1 miliwn o deithwyr yn 2019, a cheir 25 maes awyr arall.[71] Mae Finnair, Blue1, a Nordic Regional Airlines (Norra), Norwegian Air Shuttle (ASA) o Faes Awyr Helsinki yn gwerthu gwasanaethau awyr yn ddomestig ac yn rhyngwladol.

Mae'r Llywodraeth yn gwario tua €350 miliwn yn flynyddol ar gynnal rhwydwaith trenau 5,865 cilometr o hyd. Mae trafnidiaeth rheilffordd yn cael ei drin gan y Grŵp VR sy'n eiddo i'r wladwriaeth.[72] Agorwyd rheilffordd gyntaf y Ffindir yn 1862,[73][74] a heddiw mae'n ffurfio rhan o Brif Linell y Ffindir, sy'n fwy na 800 cilomedr o hyd. Agorodd Helsinki system fetro fwyaf gogleddol y byd ym 1982.

Yn Harbwr Vuosaari yn Helsinki mae mwyafrif y llwythi cargo rhyngwladol yn cael eu trin, a hwn yw'r porthladd cynwysyddion mwyaf yn y Ffindir; ymhlith y rhai eraill maeKotka, Hamina, Hanko, Pori, Rauma, ac Oulu . Ceir traffig teithwyr-troed o Helsinki a Turku, sydd â chysylltiadau fferi iTallinn,Mariehamn,Stockholm a Travemünde. Mae llwybr Helsinki-Tallinn yn un o'r llwybrau prysuraf yn y byd.[75]

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Llenyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Yr awdur a'r artistTove Jansson

Gellid dweud bod Ffinneg Ysgrifenedig wedi bodoli ers i Mikael Agricola gyfieithu'rTestament Newydd i'r Ffinneg yn ystod yDiwygiad Protestannaidd, ond ychydig o lenyddiaeth nodedig a ysgrifennwyd hyd at y 19g a dechrauMudiad Rhamantaidd cenedlaethol y Ffindir. Ysgogodd hynElias Lönnrot i gasglu barddoniaeth werin Ffinneg a Karelian a'u trefnu a'u cyhoeddi fel yKalevala, gwaith epig genedlaethol y Ffindir. Gwelodd yr oes gynydd yn y nifero feirdd a nofelwyr yn y Ffindir, yn arbennig yr awduron cenedlaetholAleksis Kivi (Y Saith Brawd), Minna Canth, Eino Leino, a Juhani Aho . Ysgrifennai llawer o lenorion y deffroad cenedlaethol cynnar yn Swedeg, megis y bardd cenedlaetholJL Runeberg a Zachris Topelius.

Cerddoriaeth

[golygu |golygu cod]
Y cantel yw offeryn cenedlaethol a thraddodiadol y Ffindir.

Gellir rhannu cerddoriaeth werin y Ffindir yn gerddoriaeth ddawns Nordig a'r traddodiad hŷn o ganu cerddi, cerddi epig genedlaethol, yKalevala. Dylanwadir ar lawer o gerddoriaeth glasurol y Ffindir gan alawon a geiriau traddodiadol y Ffindir a Karelian, fel y cynhwysir yn yKalevala. Yn rhanbarth hanesyddol Karelia y Ffindir, yn ogystal â rhannau eraill o Ddwyrain y Ffindir, cadwyd yr hen draddodiadau canu cerdd yn well nag yn rhannau gorllewinol y wlad, felly canfyddir bod diwylliant Karelian yn cael ei ystyried yn fwy pur. Mae cerddoriaeth werin y Ffindir wedi mynd trwy adfywiad ac wedi dod yn rhan ogerddoriaeth boblogaidd. Mae pobl gogledd y Ffindir, Sweden, a Norwy, sef ySami, yn adnabyddus yn bennaf am ganeuon hynod ysbrydol o'r enw joik.

Clasurol
Roedd y cyfansoddwr o'r FfindirJean Sibelius (1865-1957) yn ffigwr arwyddocaol yn hanescerddoriaeth glasurol.

Yn eironig, ysgrifennwyd yr opera Ffinneg gyntaf gan gyfansoddwr a aned yn yr Almaen, Fredrik Pacius, ym 1852. Ysgrifennodd Pacius y gerddoriaeth hefyd i'r gerddMaamme/Vårt land (Our Country),anthem genedlaethol y Ffindir. Yn y 1890au lledaenodd cenedlaetholdeb Ffindir a daethJean Sibelius yn enwog am ei symffoni lleisiolKullervo. Yn 1899 cyfansoddoddFinlandia, a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o ennill annibyniaeth i'r Ffindir. Cyfieithwyd y gân i'r Gymraeg a chafodd ei phoblogeiddio ganDafydd Iwan.

Ochr yn ochr â Sibelius, crëwyd arddull cerddoriaeth arbennig y Ffindir ganOskar Merikanto, Toivo Kuula, Erkki Melartin, Leevi Madetoja ac Uuno Klami . Ymhlith y cyfansoddwyr modern pwysicaf mae:Einojuhani Rautavaara, Aulis Sallinen a Magnus Lindberg.[76] Mae llawer o gerddorion o'r Ffindir wedi cael llwyddiant rhyngwladol. Yn eu plith mae'r arweinydd Esa-Pekka Salonen, y gantores opera Karita Mattila a'r feiolinydd Pekka Kuusisto.

Cerddoriaeth boblogaidd
Perttu Kivilaakso o Apocalyptica

Mae Iskelmä (a fathwyd yn uniongyrchol o'r gair AlmaenegSchlager, sy'n golygu "taro") yn air traddodiadol o'r Ffindir am gân boblogaidd ysgafn.[77] Mae cerddoriaeth boblogaidd y Ffindir hefyd yn cynnwys gwahanol fathau o gerddoriaeth ddawns a'r tango, arddull hefyd yn boblogaidd.[78] Mae gan y gerddoriaeth ysgafn mewn ardaloedd lle siaredir Swedeg fwy o ddylanwadau o Sweden. Mae o leiaf dau polkas Ffinneg sy'n hysbys ledled y byd sef ykkijärven polkka[79] a'r "Ievan polkka".[80]

Mae'r Ffindir wedi ennillCystadleuaeth Cân Eurovision unwaith, yn 2006 pan enilloddLordi y gystadleuaeth gyda'r gân <span typeof="mw:Nowiki">''Hard Rock Hallelujah''</span>.[81] Daeth yr artist pop o’r Ffindir Käärijä hefyd yn ail yn y gystadleuaeth yn 2023 gyda’i gân boblogaidd fyd-eang <span typeof="mw:Nowiki">'' Cha Cha Cha ''</span>.[82][83]

Sinema a theledu

[golygu |golygu cod]
Aki Kaurismäki in 2012
cyfarwyddwr ffilm Aki Kaurismäki

Yn y diwydiant ffilm, mae cyfarwyddwyr modern nodedig yn cynnwys y brodyr Mika ac Aki Kaurismäki, Dome Karukoski, Antti Jokinen, Jalmari Helander, a Renny Harlin. Mae rhaicyfresi drama o'r Ffindir yn adnabyddus yn rhyngwladol, felBordertown.

Un o'r ffilmiau Ffindir mwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol ywValkoinen Peura (Y Carw Gwyn) a gyfarwyddwyd gan Erik Blomberg yn 1952, ac a enillodd Wobr Golden Globe am y Ffilm Dramor Orau yn 1956;[84][85]TMies Vailla Menneisyyttä (Y Dyn Heb Orffennol), a gyfarwyddwyd gan Aki Kaurismäki yn 2002, a enwebwyd am Wobr yr Academi am y Ffilm Iaith Dramor Orau yn 2002 ac enillodd y Grand Prix yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes 2002; a'rFfensiwr, a gyfarwyddwyd gan Klaus Härö yn 2015, ac a enwebwyd ar gyfer y 73ain Gwobrau Golden Globe yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau fel cyd-gynhyrchiad Ffindir/Almaeneg/Estoneg.[86]

Yn y Ffindir, mae'r ffilmiau mwyaf arwyddocaol yn cynnwys Y Milwr Anhysbys, a gyfarwyddwyd gan Edvin Laine yn 1955.[87] MaeTäällä Pohjantähden Alla (Yma, O dan Seren y Gogledd) o 1968, hefyd yn un o'r gweithiau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Ffindir.[88] Pleidleisiwydffilm gomedi droseddol o 1960Komisario Palmun Erehdys, a gyfarwyddwyd gan Matti Kassila, yn 2012 fel ffilm gorau'r Ffindir erioed gan feirniaid ffilm a newyddiadurwyr o'r Ffindir,[89] ond ffilm gomedi 1984Uuno Turhapuro Armeijan Leivissä, yw'r ffilm ddomestig fwyaf poblogaidd yn y Ffindir a wnaed ers 1968 gan ddinasyddion y Ffindir.

Dinasoedd

[golygu |golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Språk i Finland" [Language in Finland].Institute for the Languages of Finland (yn Swedeg).
  2. Li, Leslie (16 April 1989)."A Land of a Thousand Lakes".The New York Times. Cyrchwyd20 September 2020.
  3. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. t. 23.ISBN 978-952-495-363-4.
  4. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. t. 339.ISBN 978-952-495-363-4.
  5. Parliament of Finland."History of the Finnish Parliament".eduskunta.fi. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 6 December 2015.
  6. Finland was the first nation in the world to give all (adult) citizens full suffrage, in other words the right to vote and to run for office, in 1906. New Zealand was the first country in the world to grant all (adult) citizens the right to vote, in 1893. But women did not get the right to run for the New Zealand legislature, until 1919.
  7. "Finland". International Monetary Fund. Cyrchwyd17 April 2013.
  8. "Finland: World Audit Democracy Profile".WorldAudit.org. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 30 October 2013.
  9. Tertiary education graduation rates—Education: Key Tables from OECD. OECD iLibrary. 14 June 2010. doi:10.1787/20755120-table1. http://www.oecd-ilibrary.org/education/tertiary-education-graduation-rates_20755120-table1. Adalwyd 6 March 2011.
  10. "Her er verdens mest konkurransedyktige land—Makro og politikk". E24.no. 9 September 2010. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 14 October 2010. Cyrchwyd6 March 2011.
  11. "The 2009 Legatum Prosperity Index". Prosperity.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 29 October 2009. Cyrchwyd4 February 2010.
  12. Herkules.oulu.fiArchifwyd 2016-03-03 yn yPeiriant Wayback.People, material, culture and environment in the north. Proceedings of the 22nd Nordic Archaeological Conference, University of Oulu, 18–23 August 2004 Edited by Vesa-Pekka Herva.
  13. Pirjo Uino of the National Board of Antiquities, ThisisFinland—"Prehistory: The ice recedes—man arrives". Retrieved 24 June 2008.
  14. History of Finland and the Finnish People from stone age to WWII. Retrieved 24 June 2008.
  15. Professor Frank Horn of the Northern Institute for Environmental and the Minority Law University of Lappland writing for Virtual Finland onNational Minorities of Finland. Retrieved 24 June 2008.
  16. Haggrén et al. 2015, p. 109.
  17. eläinpääase; karhunpäänuija. Cyrchwyd30 November 2017.
  18. 18.018.1Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. tt. 199, 210–211.
  19. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. tt. 171–178.
  20. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. tt. 189–190.
  21. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. tt. 332, 364–365.
  22. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. t. 269.
  23. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. tt. 211–212.
  24. de Smit, Merlijn."De Vanitate Etymologiae. On the origins of Suomi, Häme, Sápmi".Academia.edu (yn Saesneg). Academia, Inc. Cyrchwyd6 September 2020.
  25. Salo, Unto (2004).Suomen museo 2003: "The Origins of Finland and Häme". Helsinki: Suomen muinaismuistoyhdistys. t. 55.ISBN 978-951-9057-55-2.
  26. Kurt Villads Jensen (2019).Ristiretket. Turun Historiallinen Yhdistys. tt. 126–127.
  27. Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).Muinaisuutemme jäljet. Helsinki: Gaudeamus. t. 380.
  28. Tarkiainen, Kari (2010).Ruotsin itämaa. Helsinki: Svenska litteratursällskapet i Finland. t. 88.
  29. Tarkiainen, Kari (2010).Ruotsin itämaa. Helsinki: Svenska litteratursällskapet i Finland. tt. 104–147.ISBN 978-951-583-212-2.
  30. Tarkiainen, Kari (2010).Ruotsin itämaa. Porvoo: Svenska litteratursällskapet i Finland. tt. 167–170.ISBN 978-951-583-212-2.
  31. 31.031.1"Finnish history". infoFinland.fi. Cyrchwyd13 April 2023.
  32. "History of Finland. Finland chronology". Europe-cities.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 27 April 2011. Cyrchwyd26 August 2010.
  33. Books from Finland. Publishers' Association of Finland. 1992. t. 180.
  34. "Ruttopuisto – Plague Park". Tabblo.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 11 April 2008. Cyrchwyd3 November 2008.
  35. "Archives of the Royal Academy of Turku and the Imperial Alexander University".Memory of the World Programme.UNESCO National Committee. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2023-03-26. Cyrchwyd1 July 2022.
  36. Jussi Välimaa (2019). "The Founding of the Royal Academy of Turku in 1640".A History of Finnish Higher Education from the Middle Ages to the 21st Century. Springer. tt. 77–78.ISBN 978-3030208073.
  37. 37.037.1"Tracing Finland's eastern border".thisisFINLAND. 22 Mawrth 2011.
  38. "Finland and the Swedish Empire".Federal Research Division, Library of Congress.
  39. Nordstrom, Byron J. (2000).Scandinavia Since 1500. Minneapolis, US: University of Minnesota Press. t. 142.ISBN 978-0-8166-2098-2.
  40. The Finnish Civil War, Federal Research Division of the Library of Congress. Countrystudies.us. Retrieved 18 May 2016.
  41. "Uudenvuodenaatto Pietarin Smolnassa – Itsenäisyyden tunnustus 31.12.1917" (yn Ffinneg). Ulkoministeriö. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 26 November 2016. Cyrchwyd14 September 2020.
  42. Mononen, Juha (2 February 2009)."War or Peace for Finland? Neoclassical Realist Case Study of Finnish Foreign Policy in the Context of the Anti-Bolshevik Intervention in Russia 1918–1920". University of Tampere. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 7 June 2015. Cyrchwyd25 August 2020.
  43. "Real bridge-builder became Finland's first female government minister – thisisFINLAND".thisisFINLAND (yn Saesneg). 29 September 2017. Cyrchwyd7 December 2020.
  44. "Growth and Equity in Finland"(PDF). World Bank.
  45. Finland 1917–2007 (20 February 2007)."From slash-and-burn fields to post-industrial society—90 years of change in industrial structure". Stat.fi. Cyrchwyd26 August 2010.
  46. Manninen (2008), pp. 37, 42, 43, 46, 49
  47. Tanner, Väinö (1956).The Winter War: Finland Against Russia, 1939–1940, Volume 312. Palo Alto: Stanford University Press. t. 114.
  48. Trotter (2002), pp. 234–235
  49. Uusitalo, Hannu (October 1996). "Economic Crisis and Social Policy in Finland in the 1990s". Working Paper Series. SPRC Discussion Paper No. 70. ISSN 1037-2741. https://www.sprc.unsw.edu.au/media/SPRCFile/dp070.pdf. Adalwyd 21 January 2019.
  50. "Statistics Finland, Environment and Natural Resources". Cyrchwyd4 April 2013.
  51. "Trends in sea level variability".Finnish Institute of Marine Research. 24 August 2004. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 27 February 2007. Cyrchwyd22 January 2007.
  52. "Finland". Encyclopædia Britannica. Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite. Chicago: Encyclopædia Britannica, 2011.
  53. Dinerstein, Eric; Olson, David; Joshi, Anup; Vynne, Carly; Burgess, Neil D.; Wikramanayake, Eric; Hahn, Nathan; Palminteri, Suzanne et al. (2017). "An Ecoregion-Based Approach to Protecting Half the Terrestrial Realm". BioScience 67 (6): 534–545. arXiv:3. doi:10.1093/biosci/bix014. ISSN 0006-3568. PMC 5451287. PMID 28608869. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5451287.
  54. Grantham, H. S.; Duncan, A.; Evans, T. D.; Jones, K. R.; Beyer, H. L.; Schuster, R.; Walston, J.; Ray, J. C. et al. (2020). "Anthropogenic modification of forests means only 40% of remaining forests have high ecosystem integrity – Supplementary Material". Nature Communications 11 (1): 5978. arXiv:3. Bibcode2020NatCo..11.5978G. doi:10.1038/s41467-020-19493-3. ISSN 2041-1723. PMC 7723057. PMID 33293507. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7723057.
  55. "Nutritional and genetic adaptation of galliform birds: implications for hand-rearing and restocking".Oulu University Library (2000). Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2009-04-09. Cyrchwyd23 May 2008.
  56. "BirdLife Finland".BirdLife International (2004) Birds in Europe: population estimates, trends and conservation status. Cambridge, UK. (BirdLife Conservation Series No. 12). Cyrchwyd22 January 2007.
  57. Nousiainen, Jaakko (June 2001). "From semi-presidentialism to parliamentary government: political and constitutional developments in Finland". Scandinavian Political Studies 24 (2): 95–109. doi:10.1111/1467-9477.00048. https://archive.org/details/sim_scandinavian-political-studies_2001-06_24_2/page/95.
  58. "Constitution of Finland, 1999 (rev. 2011)". Constitute Project. Cyrchwyd5 March 2022.
  59. "Perustuslaki: 2. luku Perusoikeudet, 6 § Yhdenvertaisuus 2 momentti" (yn Ffinneg). Finlex. 1999. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-04-23. Cyrchwyd27 August 2020.
  60. "Scores of the Democracy Ranking 2012". Global Democracy Ranking. 2012. Cyrchwyd27 September 2013.
  61. "Freedom of the Press: Finland". Freedom House. 2013. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 4 September 2019. Cyrchwyd27 September 2013.
  62. "Statistics of the Human Development Report".United Nations Development Programme. 2013. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 28 November 2013. Cyrchwyd27 September 2013.
  63. "Annual Report 2013: Finland".Amnesty International. 2013. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 31 December 2013. Cyrchwyd27 September 2013.
  64. "Country Reports on Human Rights Practices for 2012: Finland". U.S. State of DepartmentBureau of Democracy, Human Rights and Labor. 2012. Cyrchwyd27 September 2013.
  65. "Finland in Figures—National Accounts".Statistics Finland. Cyrchwyd26 April 2007.
  66. "Finland in Figures—Manufacturing".Statistics Finland. Cyrchwyd26 April 2007.
  67. "Key economic indicators of Finland".statista.com. Nov 28, 2022.
  68. WIPO."Global Innovation Index 2023, 15th Edition".www.wipo.int (yn Saesneg). Cyrchwyd2023-10-17.
  69. "Finland: Globalization Insurance: Finland's Leap of Caution".Cooperatives Build a Better Maine. Cooperative Maine Business Alliance & Cooperative Development Institute. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2 February 2019. Cyrchwyd1 February 2019.
  70. News Now Staff (19 March 2018)."Top Gear: Finland's Busiest Roads Revealed".News Now Finland. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 27 January 2021. Cyrchwyd27 August 2020.
  71. "Airport operations"(PDF).Annual report 2008. Vantaa: Finavia. 17 March 2009. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 7 August 2011. Cyrchwyd28 July 2009.
  72. Transport and communications ministry—Rail. For the year 2009 update:Finnish Railway Statistics 2010.
  73. Neil Kent:Helsinki: A Cultural History, p. 18. Interlink Books, 2014.ISBN 978-1566565448.
  74. "Tulihevonen saapui ensi kerran Hämeenlinnaan 150 vuotta sitten" [The "fire horse" arrived first time in Hämeenlinna 150 years ago].Yle Häme (yn Ffinneg). Yle. 31 January 2012. Cyrchwyd17 March 2022.
  75. "The Busiest Crossing".Discover the Baltic (yn Saesneg). 24 April 2009. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 26 March 2010.
  76. "Kaija Saariaho voted greatest living composer by BBC Music Magazine".Music Finland (yn Saesneg). Cyrchwyd9 January 2023.
  77. Kaivanto, Petri."Suomalainen iskelmä".Pomus.net (yn Ffinneg). Cyrchwyd18 July 2020.
  78. C.G. (11 October 2017)."Explaining the Finnish love of tango".The Economist. Cyrchwyd18 July 2020.
  79. "How the Finns stopped the Soviets with this polka song". 6 August 2020.
  80. "Finnish jenkka song took over Japan's department stores".Music Finland.
  81. "Eurovision 2006 Results: Voting & Points".Eurovisionworld (yn Saesneg). Cyrchwyd2023-06-08.
  82. "Eurovision 2023 Results: Voting & Points".Eurovisionworld (yn Saesneg). Cyrchwyd2023-06-08.
  83. "Eurovision Official Chart Record! Why 2023 is contest's biggest year yet".www.officialcharts.com (yn Saesneg). Cyrchwyd2023-06-08.
  84. "List of Winners – Golden Globes Best Foreign Film". Cyrchwyd12 December 2013.
  85. Sundholm, John; Thorsen, Isak; Andersson, Lars Gustaf; Hedling, Olof; Iversen, Gunnar; Møller, Birgir Thor (20 September 2012).Historical Dictionary of Scandinavian Cinema (Google eBook). Scarecrow Press. t. 389 et seq.ISBN 978-0-8108-7899-0. Cyrchwyd12 December 2013.
  86. "The Fencer".goldenglobes.com.
  87. "Finnish Independence Day: Galas, protests and war memories".Yle Uutiset. 6 December 2014.
  88. "Agreeing on History Adaptation as Restorative Truth in Finnish Reconciliation, Mads Larsen, Literature Film Quarterly".lfq.salisbury.edu.
  89. Sundqvist, Janne (12 November 2012)."Kriitikot valitsivat kaikkien aikojen parhaan kotimaisen elokuvan" (yn Ffinneg). Yle Uutiset. Cyrchwyd9 May 2014.
gw  sg  go
Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Y_Ffindir&oldid=13350317"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp