Genreffilm sydd yn pwysleisiodigrifwch ac hwyl ywffilm gomedi. Dyma un o'r mathau hynaf o ffilm yn hanes y sinema.
Dylanwadwyd yn gryf ar ffilmiau comedimud gan adloniantvaudeville a'rneuadd gerdd, a newidiodd nifer o ddigrifwyr o'r llwyfan i'r sgrin yn y cyfnod cynnar hwn.Ffilmiau byrion, un-rholyn, oedd yr esiamplau cyntaf o'r genre, a gynhwysid mewn sioeau amlgyfrwng a gyflwynwyd mewn theatr, neuadd gerdd, neu babell ffair. Yr oedd y traddodiad poblogaidd hwn yn cynnig hiwmor bras, at ddant pawb, yn hytrach nachomedi foesau neuddychan. Dibynnodd y ffilm gomedi fud ar jôcs gweledol ers y cychwyn: y ffilm gomedi gyntaf oeddL'Arroseur Arrosé (1895) ganLouis Lumière, sydd yn portreadu bachgen yn chwarae cast ar ddyn gyda phibell ddŵr. Erbyn y 1910au, datblygoddslapstic i gynnwys golygfeydd rasio a siaso a chwympo a baglu, ac actau arferol, er enghraifft ffilmiau'rKeystone Cops. Daeth sawl un "arwr comig" yr oes hon yn sêr byd-enwog, gan gynnwysCharlie Chaplin,Harold Lloyd, aBuster Keaton. Yn sgil dyfodiad ffilmiau sain yn niwedd y 1920au, symudodd y bwyslais o gomedi gorfforol i jôcs llafar, er enghraifft yn ffilmiau'rbrodyr Marx aW. C. Fields. Fodd bynnag, parhaodd ystumiau egnïol a ffug-drais yn elfen o gomedi orffwyll boblogaidd.[1]
- ↑Susan Hayward,Cinema Studies: The Key Concepts (Llundain: Routledge, 2018), t. 97.