Math offilm sy'n defnyddio dulliauanimeiddio i greu argraff o ddelweddau'n symud ar y sgrin ywffilm animeiddiedig. Gall y dilyniant o fywddarluniau hyn gael eutynnu â'r llaw, eu cynhyrchu argyfrifiadur, neu eu ffurfio drwy dechnegau megisstop-symud. Y ffordd draddodiadol o animeiddio ar y sgrin yw darlunio pob ffrâm ar wahân, gyda'r llaw, ar ddalennau seliwloid (yn ddiweddarach seliwlos asetad) a chwarae'r lluniau un ar ôl y llall, yn gyflym, fel eu bod yn edrych fel pe baent yn symud. Erbyn diwedd yr 20g,delweddau wedi'u cynhyrchu â chyfrifiadur oedd y prif ddull o wneud ffilmiau animeiddiedig. Ers y cychwyn, bu'r math hwn o ffilm yn hynod o boblogaidd ar draws y byd, ymhlith plant a theuluoedd yn enwedig, ac yn gyfrwng ar gyfer sawl genre sinematig.
O 1937 hyd at y 1960au,The Walt Disney Company oedd y brif stiwdio animeiddio yn y byd, a rhyddhawyd nifer o ffilmiau mawr yn y sinema a ystyrir bellach yn glasuron, gan gynnwysSnow White and the Seven Dwarfs (1937),Pinocchio (1940),Dumbo (1941),Bambi (1942),Cinderella (1950),Alice in Wonderland (1951),Peter Pan (1953),Lady and the Tramp (1955),Sleeping Beauty (1959),One Hundred and One Dalmatians (1961), aThe Jungle Book (1967). Bu rhai o ffilmiau Disney yn cyfuno lluniau o bobl a phethau go iawn â chymeriadau animeiddiedig, er enghraifftMary Poppins a (1964) aBedknobs and Broomsticks (1971).
Am gyfnod hir, ni wynebai Disney fawr o gystadleuaeth ar y farchnad, yn bennaf oherwydd y costau uchel o animeiddio lluniau mawr, a chanolbwyntiodd animeiddwyr eraill arffilmiau byrion neu gartwnau ar gyfer y teledu. Un o'r ychydig i herio tra-arglwyddiaeth Disney oeddMax Fleischer (1883–1972), creawdwr y cymeriadBetty Boop, a gynhyrchoddGulliver's Travels (1939) aMr. Bug Goes to Town (1941). Un o'r ffilmiau animeiddiedig hir cyntaf a anelwyd at oedolion yn hytrach na phlant oeddAnimal Farm (1954) ganJohn Halas (1912–95) aJoy Batchelor (1914–91), er y byddai'n cael ei dangos i blant ysgol yn bennaf yn y blynyddoedd i ddod wrth astudio'rnofel o'r un enw.[1]
Yn y 1970au, dechreuoddRalph Bakshi (g. 1938) gynhyrchu ffilmiau animeiddiedigannibynnol, gan gynnwysFritz the Cat (1972), y llun animeiddiedig gyntaf i dderbyn dosbarthiad X (i oedolion yn unig) oddi ar yMotion Picture Association of America.[1] Aeth nifer o gyn-animeiddwyr Disney yn annibynnol, neu i weithio i stiwdios eraill, gan gynnwysDon Bluth (g. 1937) a enillai glod am ei ffilm ffantasi anturThe Secret of NIMH (1982). Yn yr un cyfnod, fodd bynnag, rhyddhawyd nifer o addasiadau sinematig o gartwnau teledu neudeganau a chymeriadau masnachol poblogaidd a oedd o safon israddol, megisThe Care Bears Movie (1985) aMy Little Pony (1986).[1]
Cafwyd adfywiad yn animeiddiad Disney gyda ffilmiau cerdd i blant megisThe Little Mermaid (1989),Beauty and the Beast (1991),Aladdin (1992), aThe Lion King (1994).
Mae animeiddio stop-symud yn defnyddio dilyniant o ffotograffau obypedau neu fodelau a gwrthrychau eraill, a newidir neu symudir yn araf bach o ffrâm i ffrâm, er mwyn creu'r argraff o ymsymudiad. Defnyddiwyd technegau o'r fath yn aml i ddodi anghenfilod neu greaduriaid chwedlonol mewn ffilmiau gydag actorion go iawn, er enghraifftKing Kong (1933). Meistr y ffilmiau stop-symud yng nghanol yr 20g oedd yr animeiddiwrRay Harryhausen (1920–2013), a gyfrannodd atThe Beast from 20,000 Fathoms (1953),Jason and the Argonauts (1963),The Golden Voyage of Sinbad (1973), aClash of the Titans (1981).
Ffurf ar animeiddio stop-symud ydyclaymation, sy'n defnyddio modelauclai. Un o'r stiwdios amlycaf i ddefnyddio'r dechneg hon ydyAardman Animations, a gynhyrchodd gyfresWallace a Gromit ac hefydChicken Run (2000), y ffilm animeiddiedig stop-symud sydd wedi ennill yr arian mwyaf yn yswyddfa docynnau.
Y ffilm animeiddiedig gyntaf o hyd llawn a gynhyrchwyd yn gyfan gwbl ar gyfrifiadur oeddToy Story (1995) gan gwmniPixar, a fu'n llwyddiant aruthrol yn y swyddfa docynnau. Cychwynnwyd ar oes newydd o ffilmiau i blant wedi'u cynhyrchu ar gyfrifiadur, yn bennaf gan y ddwy brif stiwdio, Pixar aDreamWorks. Dechreuodd Pixar gydweithio â Disney ersToy Story, ac yn 2006 daeth dan berchenogaeth Walt Disney Studios. Mae Pixar wedi cynhyrchu llu o ffilmiau poblogaidd i blant sydd wedi torri recordau yn y swyddfa docynnau, derbyn clod y beirniaid, ennill gwobrau, a chael eu hystyried yn glasuron newydd ym myd ffilm, gan gynnwysFinding Nemo (2003),WALL-E (2008), acUp (2009). Yn ogystal mae hen stiwdio Disney yn cynhyrchu ffilmiau animeiddiedig ei hun, megisFrozen (2013). Mae DreamWorks hefyd wedi arbenigo mewn ffilmiau i blant, gan gynnwys cyfresiShrek (2001) aMadagascar (2005).
- ↑1.01.11.2Richard B. Armstrong a Mary Willems Armstrong, "Animated Movies (Feature-Length)" ynEncyclopedia of Film Themes, Settings and Series (Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company, 2001), tt. 9–10.