Ffenicia yw’r enw a ddefnyddir am diriogaeth a gwareiddiadSemitaidd, yn wreiddiol o lannau dwyreiniol yMôr Canoldir, yn cyfateb yn fras iLibanus heddiw. Galwai’r bobl eu hunain ynkna'ani neuben kna'an, yn cyfateb i’rCananeaid yny Beibl, ond defnyddir y term “Ffeniciaid” am eu disgynyddion oedd yn byw o gwmpas y glannau hyd at Dor (Israel heddiw) acArados, neuArwad (Syria heddiw), rhwng1200 CC a choncwest y rhanbarthau hyn ganIslam
Roedd y Ffeniciaid yn ddylanwadol iawn o gwmpas Môr y Canoldir; er enghraifft datblygodd yr wyddor a ddefnyddir trwy ran helaeth o’r byd heddiw o’r wyddor Ffeniciaidd. Roedd yr wyddor Ffeniciaidd yn cynnwys 22 symbol, pob un yn dynodi sain arbennig. Nid oedd llafariaid yn cael eu cynnwys. Benthyciwyd y syniad i’r gwyddorau Groeg a Hebraeg, a datblygodd gwyddorau eraill o’r rhain. Ymhilth eu dinasoedd pwysicaf roeddBiblos,Tyrus aSidon. Oddi yno sefydlwyd gwladychiadau pwysig ar ynysCyprus ac yn arbennig ddinasCarthago yng ngogleddAffrica, a ddaeth yn un o bwerau mawr Môr y Canoldir.
Fel marsiandiwyr yr oedd y Ffeniciaid yn fwyaf enwog, a sefydlasant rwydwaith masnachol o gwmpas Mor y Canoldir a thu hwnt. O ran crefydd, yr oedd pantheon pob dinas yn amrywio, ond y prif dduwiau oeddBaal,Astarte,Dagon,Resef,Tanit aMelqart.