Enw dirmygus ar fudiadauCatholig sy'n cofleidio safbwyntiauffasgaidd ywffasgaeth glerigol.
Bathwyd y termclerico-fascisti gan y Tad Luigi Sturzo, offeiriadEidalaidd ac arweinydd y Partito Popolare Italiano, i ddisgrifio'r gwleidyddion a adawsant ei blaid i ymuno â'r Partito Nazionale Fascista danBenito Mussolini. Defnyddiodd yr enw am y tro cyntaf mewn cyfweliad â phapur newyddLa Stampa ar 10 Chwefror 1924.[1] Ymgeisiodd rhyw 14 ohonynt fel rhan o glymblaid y Lista Nazionale yn etholiad cyffredinol 1924. Yn ddiweddarach ffurfiwyd y mudiad Centro Nazionale Italiano i drefnu cefnogaeth yr eglwys dros ffasgaeth. Llwyddodd y grŵp hwnnw i baratoi amGytundeb y Lateran (1929) rhwng Mussolini a'rPab Pïws XI drwy ymgyrchu drosconciliazione (cymod) rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth yn yr Eidal.[2]
Yn ddiweddarach yny cyfnod rhwng y rhyfeloedd, defnyddiwyd yr enw i ddisgrifio llywodraethau a oedd yn cyfuno ideolegau ffasgaidd a Chatholig, neu'n magu perthynas glos rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth. Daeth nifer o'r pleidiau Catholig awdurdodaidd hyn i rym yngNghanolbarth Ewrop, a chanddynt gefnogaeth grwpiau lledfilwrol yr adain dde eithafol, gan gynnwys y Vaterländische Front ynAwstria, Plaid y Bobl ynSlofacia, a'rUstaše yngNghroatia.