Math offuglen sy'n ymwneud â digwyddiadau a chymeriadau sy'n perthyn i'r bydgoruwchnaturiol neuhudol neu i fydau dychmygol ywffantasi.[1][2]
Mae ystod y gweithiau ffuglen sy'n cael eu hystyried yn ffantasi yn eang iawn, gyda gorgyffwrdd sylweddol mewn rhai achosion gyda mathau eraill o ffuglen megisFfuglen wyddonol acArswyd.
Mae ffurfganoloesol i nifer sylweddol o straeon ffantasi, hynny yw maent yn tynnu archwedlau allên gwerinyr Oesoedd Canol yn ogystal ag elfennau hanesyddol y cyfnod hwnnw, megisbrenhinoedd amarchogion. Fodd bynnag, nid yw'r elfennau canoloesol hyn yn hanfodol i ffantasi ac mae enghreifftiau o ffantasi lle mae'r stori (neu rannau ohoni) wedi'u lleoli yn y byd go iawn, er gwaetha'r elfennau hudol.
Nid yw chwedlau gwerin eu hunain fel arfer yn cael eu hystyried yn enghreifftiau o ffantasi, na chwaith ffuglen o'r cyfnod modern cynnar, hyd yn oed os ydynt yn cynnwys elfennau hudol neu oruwchnaturiol. Ceir enghreifftiau cynnar o ffantasi llenyddol o'r19g, er enghraifft rhai gweithiau gan yr awduron SaesnegWilliam Morris a'rArglwydd Dunsany. Ond mae mwyafrif helaeth ffuglen ffantasi yn hanu o'r20g, gydag awduron felRobert E. Howard, sef awdur straeon cyntafConan the Barbarian, aJ.R. R. Tolkien yn ffigyrau allweddol yn hanes cynnar ygenre.