Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Fezzan

Oddi ar Wicipedia
Fezzan
Mathtirlun Edit this on Wikidata
Poblogaeth442,090 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladLibia Edit this on Wikidata
Arwynebedd551,170 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.3328°N 13.4253°E Edit this on Wikidata
Map

Un o dri rhanbarth traddodiadolLibia yw'rFezzan (Arabeg: فزانFuzzan). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin y wlad yn rhan ogleddol ySahara.

Mae'r rhan fwyaf o'r Fezzan ynanialwch tywodlyd neu garregog gyda'r boblogaeth wedi'i chanoli yn ygwerddonnau.

Bu gan yGaramantes deyrnas gref yn y Fezzan (500CC - 500OC). Roedd eu prifddinas ynGerma, tua 150 km i'r gorllewin oSebha. Ymddengys fod eu crefydd wedi ei seilio ar grefydd yrHen Aifft, ac roedd eu meirwon yn cael eu claddu mewn pyramidiau bychain. Roedd ganddynt gysylltiadau masnachol â'rSwdan aNiger, dros y Sahara, gan brynu a gwerthu ifori, metalau gwerthfawr fel aur ac arian, a chaethweision hefyd.

Bu'r Fezzan yn dalaith o fewn Libia hyd 1963.

Eginyn erthygl sydd uchod amLibia. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Fezzan&oldid=10911778"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp