Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Fan Noli

Oddi ar Wicipedia
Fan Noli
Ganwyd6 Ionawr 1882 Edit this on Wikidata
İbriktepe Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1965 Edit this on Wikidata
Fort Lauderdale Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAlbania,yr Ymerodraeth Otomanaidd,Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd,gwleidydd,offeiriad, diplomydd,hanesydd, cyfieithydd, newyddiadurwr,llenor, cyfieithydd y Beibl,bardd,cyfansoddwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Albania Edit this on Wikidata
llofnod

RoeddTheofan Stilian Noli, adnabwyd felFan Noli (6 Ionawr188213 Mawrth1965) yn sefydlydd ac esgosb yr Eglwys Albaneg Uniongred, yn awdur, hanesydd a gwleidydd. Yn 1924, bu'n Brif WeinidogAlbania am gyfnod byr. Yn 1908 ef oedd yr offeiriad cyntaf i gynnal cymun yn yr iaith Albaneg.

Bywyd cynnar

[golygu |golygu cod]

Fe'i ganwyd i deulu Albaniaid Cristonogol yn 1882 ym mhentref Ibrik Tepe yn Thrace, (Albaneg: Qytezë), sydd nawr yn rhan o wladwriaethTwrci fodern. Roedd y pentref yn cynnwys Albanaid oedd wedi ffoi Albania yn y g18 yn sgil gwrthdaro gwleidyddol a chymdeithasol. Pan oedd yn ddyn ifanc bu'n byw ynAthen ac ynAlexandria yn yrAifft a bu'n diwtor, cyfieithydd ac actor. Trwy ei gysylltiadau â'r diaspora, daeth yn gefnogwr cynnar i'r mudiad cenedlaethol Albanaidd,Rilindja. Yn ogystal ag Albaneg, roedd yn siarad sawl iaith gan gynnwys,iaith Groeg ,Saesneg,Ffrangeg,Twrceg, acArabeg.

Yr Esgob Fan Noli, sefydlydd Eglwys Uniongred Albania (1939).

Ym 1906 aethBoston yn yr Unol Daleithiau i ysgogi'r gymuned Albanaidd i ymwneud â'r mudiad cenedlaethol. Bu Noli yn gweithio ar gyfer gwahanol gyfnodolion ac roedd yn ymwneud yn arbennig â sefydlu'r Eglwys Albanig Uniongred yn yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd yr eglwys gan fod yr Albaniaid Uniongred yn teimlo eu gorthrymu gan yr eglwys Groeg y buont yn perthyn iddi tan hynny. Ordeiniwyd ef ynoffeiriad ar 8 Fawrth 1908 gan yr esgob Rwsiaidd ynNinas Efrog Newydd. Ar 22 Fawrth 1908 cynhaliodd y litwrgi gyntaf yn yr iaithAlbaneg. O 1908 i 1912, graddiodd Noli oBrifysgol Harvard ac yna dychwelodd i Ewrop i gefnogi mudiad annibyniaeth Albania. Yn 1913 ymwelodd am y tro cyntaf â'r Albania newydd annibynnol. Yn ystod yRhyfel Byd Cyntaf, arhosodd eto yn yr Unol Daleithiau, lle daeth yn gadeirydd clwb Albanaidd Vatra. Ef, i bob pwrpas, oedd pennaeth y Diaspora Albaniaidd yng Ngogledd America. Ar ôl yRhyfel Byd Cyntaf, perswadiodd Arlywydd AmericaWoodrow Wilson i siarad yn nhrafodaethau heddwch Paris ar annibyniaeth Albania. Gyda chynnwys Albania yngNghynghrair y Cenhedloedd yn 1920, roedd y wladwriaeth ifanc yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Roedd hyn yn rannol oherwydd gwaith Noli.

Yn 1923 fe'i etholwyd ynArchesgob Albania a'i gysegru. Felly, sefydlwyd hierarchaeth i Eglwys Uniongred Albania yn annibynnol, am y tro cyntaf erioed, oddi arEglwys Uniongred Groeg.

Rhwng y Ddau Ryfel Byd

[golygu |golygu cod]
Papur arian 100 Lekë (Banknote) cyfredol.

Yn 1921 etholwyd Noli iSenedd Albania fel cynrychiolydd o blaid rhyddfrydol drosVatra. Ef hefyd oedd arweinydd y garfan yma. Bu'n Weinidog dros Faterion Tramor am gyfnod byr yn llywodraeth y Prif Weinidog, Xhafer Ypi. Yna safodd i olynu Ypi gan sefyll yn erbyn arweinydd y tirfeddianwyr ceidwadol, Ahmet Zogu. Wedi i Zogu gael ei ddarganfod o fod yn gyfrifol am lofuddiaeth gwleidydd Rhyddfrydol bu'n rhaid iddo ffoi'r wlad iIwgoslafia ym mis Mai 1924. Roedd y ffordd yn glir nawr i llywodraeth o dan Noli. Ym mis Mehefin 1924 daeth Noli yn Brif Weinidog.

Roedd rhaglen ddiwygio ddemocrataidd Noli yn amhoblogaidd iawn gan yr elît gwleidyddol. Erbyn Nadolig 1924 gwrthodwyd Noli gan ddilynwyr Zogu. Ffodd Noli i'r Eidal ac yna dychwelodd i'r UDA, lle ceisiodd ffurfio gwrthbleidiad democrataidd i Zogu yno yn 1932. Yn ôl adre yn Albania, tynhaodd Zogu ein reolaeth dros y wlad gan ddatgan ei hun ynFrenin yr Albanaid yn 1928.

Tra roedd yn yr UDA, yn ogystal â gweithredu'n wleidyddol, ymdaflodd Noli ei hun hefyd i ddatblygu Eglwys Uniongred Albania. Bu hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu a chyfieithu nifer o weithiau pwysig. Yn ei mysg roedd cyfieithiad o'r testunau litwrgaidd i'r Albaneg a cyfieithodd gwaith llenyddiaeth y byd, megisWilliam Shakespeare, i'w famiaith. Yn ystod yrAil Ryfel Byd, roedd ganddo gysylltiad â'r Comiwnyddion Albanaidd o danEnver Hoxha. Roedd yn argymell eu cydnabod fel cynrychiolwyr dilys Albania yn y glymblaid gwrth-Hitler gan lywodraeth yr UD. Treuliodd Noli ei ymddeoliad yn Florida, lle bu farw ar 13 Mawrth, 1965 yn 83 oed.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Librë e Shërbesave të Shënta të Kishës orthodoxe. Boston 1909.
  • Georg Castrioti Scanderbeg (1405-1468), Prifysgol Boston, 1939, abgerufen am 26. Oktober 2016.
  • Beethoven and the French Revolution, New York 1947. (deutsch unter dem Titel: Eroica. Das heftige Leben des Ludwig van Beethoven. Kiel 1990).
  • Izraelitë e Filistinë, (Yr Israeliaid a'r Philistiaid - Drama).
  • Vepra. E përgatiti për shtyp Ali Rexha, Prishtinë. 1988. (Cyfrol o waith Fan Nolis yn yr iaith Albaneg, golygwyd gan Ali Rexha).
Cyfieithiadau
  • Shakespeare, William: Hamleti princ i Danemarkes, e shqiperoj, Bruxelles 1926. (cyfieithiad)
  • Three liturgies of the Eastern Orthodox Church, Translated by Bishop Fan Stylian Noli, Boston 1955.
  • Mesha dhe Katekizma e kishes orthodokse lindore. Shqip edhe Inglisht, Boston 1955
  • Byzantine hymnal, Boston 1959.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Fan_Noli&oldid=12938167"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp