Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Falens

Oddi ar Wicipedia
Falens
Enghraifft o:ffenomen naturiol Edit this on Wikidata
Mathnifer (diddimensiwn) Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Falens yw mesur o’r modd maeatomau cemegol elfennol yn cysylltu â’i gilydd i ffurfiomolecylau[1]. Bu darganfod y priodoledd hwn yn rhan bwysig o ddatblygiad y ganfyddiaeth fodern oatom amoleciwl. Gwyddom, bellach, bod falens yn ddibynnol ar batrwmelectronau atomau.

Cynllun "ronynnau eithaf" y cemegydd William Higgins (1789). Rhagfynegiad priodoleddfalens atomau.

Yn fuan wedi datblygu’r syniadau o elfennau cemegol, trwy arbrofion gofalus, daeth i’r amlwg eu bod yn cyfuno a'i gilydd yn gyson ac yn gyfraneddol. Yn 1789 cyhoeddodd y cemegydd oIwerddon William Higgins[2] ei syniadau am gyfuniad “ronynnau eithaf” a rhagfynegodd y disgrifiad ffurfiol gyntaf gan y cemegydd oLoegr Edward Frankland[3] yn 1852.  Gydag esboniadErnest Rutherford o strwythur yr atom bu modd i’rAmericanwr Gilbert Lewis[4], yn 1916, esbonio falens yn nhermau tueddiad atomau (brif grŵp) i gasglu wyth electron mewn plysg falens pan fyddant yn cyd-gysylltu, neu ffurfio ionau.  Er enghraifft, trwy ranni un electron mae atomsodiwm (sydd ag un electron yn ei orbit falens) yn cydweithio ag atomclorin (sydd a saith) i ffurfio dwy ion (Na+ a Cl-) ag wyth electron yn eu horbitau falens. Yn yr un modd mae pedwar atomhydrogen, sydd ag un electron, yn cyfrannu’r pedwar electron sydd eu hangen i osod wyth electron yn orbit falens atomcarbon mewn moleciwl o fethan. (Dau electron, yn hytrach nag wyth, sy’n llenwi plysg falens atomau hydrogen aheliwm.)

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Burrows, Andrew; ag eraill (2017).Chemistry3. Rhydychen: OUP.ISBN 9780198733805.
  2. Partington, J.R. (1955). "William Higgins, Chemist (1763-1825)". Nature 176: 8-9. https://www.nature.com/articles/176008a0.pdf.
  3. Crosson, Sally (18 Ionawr 2017)."Scientist of the Day - Edward Frankland".Linda Hall Library. Cyrchwyd7 Mai 2021.
  4. Hildebrand, Joel H. (1958).Gilbert Newton Lewis(PDF). Washington D.C.: National Academy of Sciences (US).
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Falens&oldid=12279968"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp