Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Facebook

Oddi ar Wicipedia
Facebook
Enghraifft o:gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol,gwefan, cyfryngau cymdeithasol, user-generated content platform, cymuned arlein, very large online platform Edit this on Wikidata
CrëwrMark Zuckerberg Edit this on Wikidata
AwdurMark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Tsieineeg Traddodiadol, Tsieineeg Syml,Japaneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
PerchennogMeta Platforms Edit this on Wikidata
GweithredwrMeta Platforms Edit this on Wikidata
SylfaenyddMark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.facebook.com Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwefanrwydweithio cymdeithasol ywFacebook, yn debyg iBebo aMySpace. Yn anffurfiol, defnyddir yr enwGweplyfr arno yn y Gymraeg.[1]

Hanes

[golygu |golygu cod]

Pan lansiwyd Facebook yn2004 ganMark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyrPrifysgol Harvard, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol arall yn yrUnol Daleithiau.[2] Yn raddol ehangwyd yr aelodaeth i unrhyw un oedd â chyfeiriade-bost sefydliad addysgol (e.e. .edu, .ac.uk, ayyb) ar draws y byd, ac yn2006 agorwyd y wefan i unrhyw berson. Mae'r defnyddwyr yn creu pwll o Ffrindiau ac yn danfon gwybodaeth a negeseuon at ei gilydd neu eu gosod ar eu tudalennau.

Ym Medi 2012, roedd gan Facebook dros biliwn o ddefnyddwyr,[3] a chredir bod 8.7% o'r rheiny yn rhai ffug.[4]

Achos llys

[golygu |golygu cod]

Yn2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003.[5]

Nodweddion

[golygu |golygu cod]
  • Mae'n rhaid cofrestru â Facebook cyn cael mynediad i'r wefan.
  • Gellir dewis ymuno â rhwydweithiau a seilir ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.

Ieithoedd Facebook

[golygu |golygu cod]

Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhyngwyneb amlieithog o ddewis y defnyddiwr. Ymhlith yr ieithoedd y gellir eu defnyddio mae'r canlynol:

  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Sbaeneg
  • Catalaneg
  • Norwyeg
  • Almaeneg
  • Tsieceg
  • Tsieinëeg
  • Daneg
  • Ffinneg
  • Eidaleg
  • Iseldireg
  • Pwyleg
  • Rwsieg
  • Swedeg
  • Tyrceg
  • Portiwgaleg (Brasil)
  • Siapaneg
  • Coreg

Preifatrwydd a diogelwch

[golygu |golygu cod]

Cafwyd sawl cwyn am ddiffygpreifatrwydd ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd fod nifer o raglenni fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai'n eu pasio ymlaen (neu eu gwerthu) i gwmnïau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ôl i ddefnyddwyr Facebook ddewis lefel diogelwch gwybodaeth uchaf posib. Roedd y wybodaeth a "ffermiwyd" felly'n cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ôl wynebu bygythiad o gael achos llys yn eu herbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook eu bod wedi cymryd camau i atal hynny.[6]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]

Dolenni

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Facebook&oldid=11585101"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp